Cwpan y Byd: Y chwaraewyr yn dathlu yn y brifddinas
Gyda Chymru'n sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd, roedd 'na reswm dathlu yng Nghaerdydd nos Sul.
Fe wnaeth y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Wcráin greu hanes gyda Chymru'n cyrraedd y rowndiau terfynol am y tro cyntaf ers 1958.
Rheswm dathlu i'r cefnogwyr, a'r chwaraewyr! Gwelwyd chwaraewyr a chefnogwyr yn dathlu gyda'i gilydd tu allan i far Elevens Gareth Bale yng nghanol y ddinas.