Cynghrair y Cenhedloedd yn 'ymarfer da i Gwpan y Byd'
Bydd meddyliau'r tîm cenedlaethol yn gorfod symud ymlaen o orfoledd cyrraedd Cwpan y Byd wrth wynebu'r Iseldiroedd nos Fercher.
Yn dilyn y golled yng ngêm agoriadol Cynghrair y Cenhedloedd yng Ngwlad Pwyl wythnos yn ôl, tîm Louis van Gaal bydd yr ymwelwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond brin dridiau wedi perfformiad arwrol y tîm yn erbyn Wcráin i gyrraedd pencampwriaeth Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, y disgwyl yw bydd wynebau newydd ymysg yr 11 a fydd yn cychwyn y gêm.
Mewn grŵp sydd hefyd yn cynnwys Gwlad Belg, bydd y gemau yn ffordd dda o baratoi ar gyfer Qatar, yn ôl Rubin Colwill o Gaerdydd.