Cynghrair y Cenhedloedd: Gwlad Pwyl 2-1 Cymru
- Cyhoeddwyd
Boddi yn ymyl y lan oedd tynged tîm arbrofol Cymru wrth agor eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn un o brif ddetholion Ewrop.
Am gyfnod roedd hi'n edrych fel byddai gôl Johnny Williams yn sicrhau'r paratoad orau bosib cyn y gêm dyngedfennol yng Nghaerdydd brynhawn Sul.
Ond colled anlwcus oedd hi, er bydd Robert Page yn teimlo fod ei dîm yn haeddu gwell yn dilyn perfformiad calonogol iawn.
Hefyd nos Fawrth fe wnaeth Wcráin guro'r Alban yn eu gêm ail gyfle Cwpan y Byd o 3-1 - sy'n golygu mai Wcráin fydd yn herio Cymru yn y gêm fawr ddydd Sul.
Dechrau bywiog
Chris Gunter, sydd heb glwb ar y funud, arweiniodd y tîm allan i awyrgylch tanbaid Stadiwm Tarczynski yn Wroclaw wrth sicrhau cap rhif 108.
Ond er eu bod yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf ym mhrif adran Cynghrair y Cenhedloedd, roedd yn ddechrau bywiog gan dîm Robert Page o flaen y dorf o dros 40,000.
Wedi'i alw yn ôl i'r garfan wedi bwlch o chwe blynedd, llwyddodd Wes Burns i wneud argraff i lawr yr asgell chwith wrth i'r ymwelwyr weld llawer o'r bêl yn y chwarter awr agoriadol.
Fe ddaeth cyfle euraidd i'r Pwyliaid wedi 20 munud gyda Danny Ward yn arbed ergyd Lewandowski pan un yn erbyn un.
Er i Morrell dderbyn cerdyn melyn wedi hanner awr, parhau i greu cyfleoedd wnaeth Cymru gydag ergyd Dan James yn methu'r nod yn dilyn gwrthymosodiad chwim.
Fe ddaeth yr hanner i ben gyda'r tîm cartref yn edrych yn fwyfwy rhwystredig, yn bennaf oherwydd amddiffyn penderfynol y Cymry.
Pwysau cynyddol
Ar yr egwyl gwnaed sawl newid gyda Rabbi Matondo, Wayne Hennessey a Mark Harris yn dod ymlaen yn lle Daniel James, Danny Ward a Kieffer Moore.
Dangosodd Matondo ei gyflymdra yn fuan yn yr ail hanner wrth greu cyfle i Johnny Williams, gydag ergyd y chwaraewr Swindon Town o du allan y cwrt cosbi yn darganfod cornel isa'r rhwyd.
Ond cynyddodd y pwysau ar amddiffyn Cymru wrth i'r ymwelwyr flino.
Fe ddaeth y Pwyliaid yn gyfartal wedi 70 munud wrth i Kaminski sgorio ergyd gelfydd, er bydd cwestiynau'n cael eu gofyn o amddiffyn Cymru a'r lle a adawyd i chwaraewr Lech Poznan yn y cwrt cosbi.
Gyda 12 munud yn weddill daeth Sorba Thomas ymlaen yn lle Johnny Williams, wrth i Gymru sicrhau cyfres o giciau cornel a lleddfu'r pwysau ar yr amddiffyn.
Ond wedi 84 munud fe ddaeth y gôl fuddugol wrth i ergyd Lewandoswki wyro i ffwrdd o Norrington-Davies ac yn syth i drywydd Swiderski, a wnaeth ddim camgymeriad o fewn y cwrt cosbi.
Er yr apêl a ddilynodd, methodd VAR â bod yn achubiaeth.
Gyda Chymru'n edrych yn dîm blinedig erbyn hyn, doedd tîm Robert Page ddim yn edrych yn debygol o unioni'r sgôr wrth i'r munudau redeg allan yn Wroclaw.
Daeth y cyfle olaf yn dilyn cic gornel ond aeth ergyd Matt Smith dros y trawst, a chyda hynny obeithion y Cymry o bwynt yng ngêm agoriadol yr ymgyrch.