Y gŵr diymhongar a thawel oedd hefyd yn gallu tanio
Mae'r teyrngedau'n llifo mewn ymateb i'r cadarnhad bod cyn-gapten rygbi Cymru, Phil Bennett wedi marw yn 73 oed.
Yn un o fawrion timau Cymru a'r Llewod, mae'r cyn faswr cael ei ystyried yn un o'r goreuon i chwarae'r gêm erioed.
Roedd yn allweddol i lwyddiant y tîm cenedlaethol ac yn ymarfer yn galed ar ben ei hun i wella'i gyflymdra, er mor hynod oedd ei sgiliau cynhenid.
Mae llawer wedi disgrifio'i natur hynaws - dyn oedd byth â gair cas i'w ddweud am neb, ac yn trin pawb yr un fath.
Dyma ran o deyrnged y cyn-sylwebydd rygbi Huw Llywelyn Davies ar raglen Dros Frecwast fore Llun.