Teyrngedau i gyn-gapten rygbi Cymru, Phil Bennett

  • Cyhoeddwyd
Phil BennettFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Phil Bennett, un o fawrion timau rygbi Cymru a'r Llewod, wedi marw yn 73 oed.

Roedd y maswr o Felinfoel ger Llanelli yn cael ei ystyried yn un o'r goreuon i chwarae'r gêm erioed.

Mewn cyfnod pan oedd gemau rhyngwladol yn llai rheolaidd, enillodd 29 o gapiau dros ei wlad.

Ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad fel yr oedd yn y cyfnod yna, enillodd y Gamp Lawn ddwywaith, a'r Goron Driphlyg ar dri achlysur.

Chwaraeodd hefyd dros y Barbariaid, ac yn erbyn Seland Newydd yn 1973 fe ddechreuodd y symudiad a arweiniodd at gais anfarwol Gareth Edwards - y cais gorau erioed yn hanes y gamp yn ôl rhai.

Mae'n cael ei ystyried yn un o'r chwaraewyr gorau erioed i wisgo crys rhif 10 i Gymru a'r Llewod.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Scarlets Rugby

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Scarlets Rugby

Fe gafodd ei urddo ag OBE, yn 1979, ac ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion corff World Rugby yn 2005.

Roedd yn sylwebydd poblogaidd gyda BBC Cymru ar ôl ymddeol o'r gêm, ac yn lywydd clwb rhanbarthol y Scarlets.

Yn ei arddegau roedd yn gweithio yn y gweithfeydd dur ac roedd hi'n ymddangos yr adeg honno y byddai'n bêl-droediwr llwyddiannus wedi iddo gael cynnig treial gan West Ham.

Disgrifiad,

Teyrngedau i gyn-gapten rygbi Cymru, Phil Bennett

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd llefarydd ar ran y Scarlets ei fod wedi marw yn dawel yn ei gartref nos Sul.

Nodwyd ei fod wedi chwarae 413 o weithiau i Lanelli gan ddechrau pan oedd yn 18 - fe chwaraeodd ei gêm olaf yn 1981.

Sgoriodd 2,535 o bwyntiau i'r clwb gan gynnwys 131 cais.

"Roedd e'n llys-gennad gwych ar ran y Scarlets ac yn cael ei barchu ar draws y byd," medd y neges.

'Maswr gorau'

Ffynhonnell y llun, Bill Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe fuodd Phil Bennett (dde) a Delme Thomas mewn seremoni i ddadorchuddio cerflun o Bennett ym mis Ebrill

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei gyd-chwaraewr a'i gyfaill Delme Thomas: "Dyma'r maswr gorau i fi erioed i'w weld ar y cae rygbi."

Ar Dros Frecwast, ychwanegodd: "Mwy na just chwaraewr rygbi, o'dd e'n ffrind da iawn, pob un yn caru Phil, o'dd pob un yn meddwl y byd amdano fe.

"Wastad ei draed ar y ddaear... o'dd amser 'da Phil i siarad da pawb, 'na pam o'dd e mor boblogaidd da pawb."

Ychwanegodd: Bachan special iawn, dwi 'di bod yn ffodus iawn i chware gyda'r chwaraewyr gorau, dwi'n credu, yn y byd, ond Phil o'dd y gorau.

"Y maswyr 'ma mae Cymru wedi troi mas yn y blynydde, Phil i fi o'dd y gorau o'r cwbl, ac nid dim ond fel chwaraewr rygbi, ond fel ffrind - meddwl y byd o'r crwt."

Disgrifiad,

Huw Llywelyn Davies yn rhoi teyrnged i'r seren rygbi sydd wedi marw yn 73 oed

Roedd yn "chwaraewr arbennig, un o'r gorau sydd wedi bod", meddai cyn-faswr Cymru a chyn-gadeirydd yr undeb, Gareth Davies.

Dywedodd un arall o gyn-lywyddion yr undeb, Gerald Davies, bod Bennett yn "ddyn oedd yn gallu ysbrydoli dim dim ond ni, ond pawb o'dd yn gweld e yn 'whare".

Ychwanegodd y cyn-asgellwr: "O'dd e'n fachan dewr, o'dd e'n hapus i gymryd ei siawns, ta pryd o'dd ei siawns yn troi lan, o'dd e'n fentrus, yn feiddgar, a o'dd dim byd galle fe ddim 'neud."

Ychwanegodd y sylwebydd Huw Llywelyn Davies, bod Bennett wedi llenwi esgidiau Barry John yn dilyn ei ymddeoliad yntau.

"O'dd 'na ddagrau ym mhobman yng Nghymru - o'n nhw'n meddwl bod yr oes yn dod i ben, ac na fydde neb yn dod mewn i lenwi 'sgidiau Barry fel partner i Gareth Edwards.

"Ond dyma Phil yn cyrraedd a chreu partneriaeth yr un mor llwyddiannus gyda Gareth...

"Pan chi'n meddwl nôl am Phil, nath e sgori a chreu rhai o'r ceisiau mwya' cofiadwy a fu dros Lanelli yn amlwg, ond Cymru, y Llewod a'r Barbariaid hefyd."

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Phil Bennett 29 o weithiau i Gymru ac wyth gwaith i'r Llewod

"O'dd e'n bleser ac yn anrhydedd cael rhannu'r blwch sylwebu gyda Phil am ddegawd a mwy," meddai cyn-sylwebydd rygbi BBC Cymru, Gareth Charles. "Heb os nac oni bai, Phil Bennett yw un o'r goreuon yn y byd rygbi, ar ac oddi ar y cae.

"O'dd pobol yn bwysig i Phil, o'dd bod yn garedig i bobol yn bwysig i Phil, a o'dd hwnna'n dod drosodd dwi'n credu yn ei sylwebaeth e hefyd...

"O'dd e eisie bod yn gefnogol i'r chwaraewyr, i'r to nesa' o'dd yn dod ar ei ôl e."

'Wastad yn cofio ei wreiddiau'

Dywedodd cadeirydd y Scarlets Simon Muderack: "Mae'r newydd yn ergyd i ni. Bob tro roedd Scarlets yn teithio o gwmpas y byd roedd pobl wastad yn sôn am Phil Bennett.

"Roedd e'n seren yn y byd rygbi ond yn un a oedd wastad yn cofio ei wreiddiau.

"Roedd Phil yn arwr i gymaint o bobl - nid dim ond yn Llanelli a gorllewin Cymru ond ar draws y gêm ac rwy'n siŵr bod gan sawl un o gefnogwyr y Scarlets eu straeon personol amdano."

Dywedodd llefarydd ar ran Y Llewod eu bod yn drist o glywed am ei farwolaeth a bod ei gyfraniad yn fawr i fuddugoliaeth 1974.

Mae'n gadael gwraig Pat a dau fab Steven a James a'u teuluoedd.

Pynciau cysylltiedig