'Allweddol fod trethi ail gartrefi yn helpu pobl leol'

Gyda rheolau newydd yn dod i rym y flwyddyn nesa', mae rhai gwerthwyr tai wedi dweud bod y newidiadau'n dechrau cael effaith ar y farchnad yn barod wrth i rai perchnogion ail gartrefi ddechrau gwerthu er mwyn osgoi trethi cyngor uwch.

Ond mae ymgyrchwyr ac arbenigwyr yn y maes wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C fod angen mesurau pellach i sicrhau bod mwy o dai ar gael i bobl leol eu prynu.

Un o'r rheiny sy'n dweud fod angen gwneud mwy ydy un o sylfaenwyr ymgyrch Hawl i Fyw Adra, Rhys Tudur.

O fis Ebrill 2023, bydd cynghorau Cymru'n cael codi'r dreth ar ail dai i hyd at 300%, ond dywedodd Mr Tudur raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru ei bod yn allweddol fod cynghorau yn defnyddio'r arian hynny er mwyn helpu pobl i brynu tai yn eu milltir sgwâr.