Ail gartrefi: Posib i dreth cyngor rhai gynyddu 300%
- Cyhoeddwyd
Fe allai rhai perchnogion ail gartrefi yng Nghymru dalu pedair gwaith eu lefel bresennol o'r dreth gyngor o'r flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.
Ar hyn o bryd gall cynghorau godi premiwm ail gartref o hyd at 100% ond bydd hynny'n cynyddu i 300% o fis Ebrill 2023.
Mae'r datblygiad, sy'n rhan o gytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru, yn rhan o ymdrechion i'w gwneud hi'n haws i bobl fforddio cartrefi lle cawsant eu magu.
Mae Gwynedd ac Abertawe eisoes yn codi premiwm o 100%, a bydd Sir Benfro yn gwneud hynny o fis nesaf ymlaen.
Mae gweinidogion yn annog cynghorau i roi'r arian ychwanegol a godwyd i gynyddu nifer y tai fforddiadwy.
Bydd y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer diffinio bod llety hunan-ddarpar yn talu ardrethi busnes yn hytrach na'r dreth gyngor hefyd yn newid o fis Ebrill nesaf.
Ar hyn o bryd, bydd eiddo sydd ar gael i'w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac sy'n cael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod, yn talu ardrethi yn hytrach na'r dreth gyngor.
Bydd y newid yn cynyddu'r trothwyon hyn, fel y gall eiddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Dywedodd y llywodraeth y bydd hyn yn ei gwneud hi'n gliriach bod yr eiddo yn llety gwyliau gwirioneddol sy'n gwneud "cyfraniad sylweddol" i'r economi leol.
Cofrestrwyd ychydig o dan 25,000 o ail gartrefi yng Nghymru at ddibenion y dreth gyngor ym mis Ionawr 2021.
Mewn rhai rhannau o'r wlad, yn enwedig ardaloedd arfordirol, maent yn fater cynhennus, gyda phobl yn teimlo eu bod yn eu prisio allan o'r ardal y cawsant eu magu ynddi ac yn bygwth y diwylliant Cymraeg.
'Dal digon o arian i dalu treth uwch?'
Cafodd Huw Hickey ei eni a'i fagu yn Abersoch. Dywedodd: "Dwi'n gweithio llawn amser ac yn dal yn stryglo hefo'r rhent ac ati.
"Dwi wedi symud i Bwllheli i fyw achos mae'n rhatach i fi yn fan'na. Does dim llawer o bobol Cymraeg yn fa'ma rŵan."
Mewn ymateb i'r posibilrwydd o gynyddu'r dreth cyngor 300% yn achos perchnogion ail dai dywedodd: "Mae ganddyn nhw'r arian o hyd, oni ddim?
"Byddan nhw'n dal yn heidio yma, a byddan ni'n cael ein hel o 'ma a bydd dim Cymry yma bellach yn fuan, dwi'n meddwl."
Mae Cath Clarke, sy'n berchen ar garafán ger Abersoch, yn cytuno â chynnig Llywodraeth Cymru.
"Dwi'n meddwl bod o'n hollol iawn," meddai. "Os oes gan bobol ail gartrefi, dwi'n meddwl bydd y gymuned yn marw.
"Mae angen pobol leol. Os ydi pobol wir yn hoffi bod yma gymaint, yna ddylien nhw symud yma.
"Mae'n beth da bod yna gymaint o feysydd carafán oherwydd gall pobol ddod yma a chael gwyliau yna.
"Dwi wir yn anghytuno'n gry' 'efo ail gartrefi. Mae'n ffordd eithriadol o hunanol i fynd o gwmpas pethau, yn fy marn ostyngedig i."
'Tecach'
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac yn rhoi mwy o gymorth i gymunedau lleol wrth fynd i'r afael â'r effeithiau negyddol y gall ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor eu cael.
"Dyma rai o'r ysgogiadau sydd ar gael inni wrth inni geisio creu system decach.
"Byddwn ni'n parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu'r cyflenwad o dai sydd ar gael. Ac rydyn ni eisoes wedi dangos hynny drwy'r £1bn o gyllid sydd wedi'i neilltuo i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a gafodd ei gynnwys yn y gyllideb a gyhoeddais ddiwedd y llynedd."
Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Sian Gwenllian: "Mae'n amlwg ein bod ni fel gwlad yn wynebu argyfwng tai.
"Mae cymaint o bobl yn methu fforddio byw yn eu hardaloedd lleol, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.
"Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth, gan alluogi cynghorau i ymateb i'w hamgylchiadau lleol, a dechrau cau'r bwlch yn y gyfraith bresennol.
"Mae'n gam cyntaf, ond yn un pwysig, ar y daith tuag at system dai newydd, sy'n sicrhau bod gan bobl yr hawl i fyw yn eu cymuned."
'Mwy o dai gwag nac ail gartrefi'
Cyhuddo Llafur o drio plesio Plaid Cymru er mwyn sicrhau eu cefnogaeth yn y Senedd wnaeth Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr ar dai.
Dywedodd y bydd y newid yn cosbi'r rhai sydd am fuddsoddi yng Nghymru.
"Mae'r argyfwng tai yn ganlyniad uniongyrchol i lywodraethau Llafur yn methu â rhoi cyfleoedd a methu adeiladu digon o dai, gyda lefelau adeiladu yn gostwng yn is na'r hyn oedd cyn datganoli," meddai.
"Mae'r Llywodraeth Lafur wedi methu a mynd i'r afael â gwraidd y broblem dai ac i ddatrys y ffaith fod yna fwy o dai gwag yng Nghymru nac sydd yna o ail gartrefi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021