Cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad yn 'warthus a pheryglus'
Mae Clwb Pêl-droed Maes-glas yn chwarae yn ail adran Cynghrair Costcutter Ceredigion. Ers 2004 mae'r tîm wedi bod yn defnyddio cwt metel fel ystafell newid.
Ond wedi i safon y cyfleusterau ddirywio dros y blynyddoedd mae chwaraewyr nawr yn dewis newid y tu allan, a chael cawod gartref.
"Mae angen mwy o arian arnom, ac ymrwymiad dros nifer o flynyddoedd i sicrhau bod safon ein cyfleusterau yn gwella," medd Aled Lewis o Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.