Rhai cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad yn 'warthus'
- Cyhoeddwyd
Mae safon cyfleusterau pêl-droed Cymru yn wael o'u cymharu â gwledydd eraill yn Ewrop, yn ôl Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Diffyg buddsoddiad dros nifer o flynyddoedd sydd ar fai, meddai'r corff.
Mae Aled Lewis, Pennaeth Datblygu Pêl-droed, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi er mwyn codi safonau cyfleusterau.
"Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn mwynhau'r profiad o chwarae," meddai.
"Bydd hynny'n arwain at gyfleusterau gwell, ystafelloedd newid gwell a chaeau sy'n llawer gwell."
Cyfleusterau 'trydydd byd'
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney wedi dweud yn ddiweddar bod angen buddsoddiad o £300m mewn cyfleusterau ar lawr gwlad.
"Y peth cyntaf i mi sylweddoli oedd y cyfleusterau llawr gwlad trydydd byd sydd gennym ar draws y wlad," meddai.
"Cefais sioc i fod yn onest gyda chi, mae 953 o glybiau a nifer ohonynt yn chwarae mewn amodau gwael iawn. Felly roeddwn i wedi fy nychryn i fod yn onest, pan welais hynny."
Mae Clwb Pêl-droed Maes-glas yn chwarae yn ail adran Cynghrair Costcutter Ceredigion. Ers 2004 mae'r tîm wedi bod yn defnyddio cwt metel fel ystafell newid.
Ond wedi i safon y cyfleusterau ddirywio dros y blynyddoedd mae chwaraewyr nawr yn dewis newid y tu allan, a chael cawod gartref.
Barry Jones yw rheolwr y tîm cyntaf. "Y gordyfiant o amgylch y cae yw un o'r prif broblemau," meddai.
Yn ystod un gêm, gallai Clwb Pêl-droed Maes-glas golli hyd at saith neu wyth pêl. Ond yr ystafelloedd newid yw'r broblem fwyaf.
"Gallwch weld y llwydni ar y to," eglura Barry Jones.
"Dyw hwn ddim y strwythur mwyaf diogel chwaith. Mae tyllau yn y waliau. Y toiledau hefyd, gallwch weld cyflwr rheini. Mae'r gaeaf yn hunllef llwyr gyda dŵr yn dod drwodd."
Ychwanegodd Mr Jones fod yr stafelloedd newid yn "warthus" ac yn "beryglus".
"Mae angen buddsoddi arian mawr i mewn i'r clwb i geisio gwella pethau yma.
"Mae'r dyfodol yn eithaf llwm gan nad yw pethau'n mynd i wella'n gyflym. Mae'n dibynnu'n llwyr ar fuddsoddiad. Os na chawn ni'r cymorth ariannol, yna bydd pethau ond yn gwaethygu yma."
Gall clybiau fel Maes-glas nawr wneud cais am grant drwy raglen Cronfa Cyfleusterau Llawr Gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae rhan gyntaf y cynllun wedi dyfarnu £3.2m i 48 o brosiectau ledled y wlad, wedi cefnogaeth gan lywodraethau Cymru a'r DU.
Ar gyfartaledd mae'r gronfa yn dyfarnu £63,000 i brosiectau.
Clwb Chwaraeon Cymunedol Cwm Welfare yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi derbyn y swm mwyaf gan wario £252,000 ar gyfleusterau newid ac ystafelloedd cymunedol newydd.
Gwnaeth CPD Maesglas gais am £9,000, yn bennaf i fuddsoddi mewn peiriant torri gwair newydd. Ond mae Barry Jones yn teimlo'n rhwystredig ar ôl methu â chael ceiniog.
"Byddai cael peiriant torri gwair yn help mawr i fod yn onest," meddai.
"Ond cafodd ein cais ei wrthod ac mae hynny'n siom fawr. Rydyn ni i gyd yn gweithio'n galed iawn yn y clwb, ond heb y gefnogaeth mae'n teimlo ar adegau fel petaech chi'n curo'ch pen yn erbyn wal frics."
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn bwriadu cyhoeddi cam nesaf y grantiau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Ond mae Aled Lewis o Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn esbonio bod angen llawer mwy o fuddsoddiad i gyrraedd y £300m sydd ei angen.
"Mae angen mwy o arian arnom, ac ymrwymiad dros nifer o flynyddoedd i sicrhau bod safon ein cyfleusterau yn gwella.
"Mae angen i ni weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan, i FIFA ac UEFA er mwyn cau'r bwlch o ran cyllid ar lawr gwlad."
Ychydig filltiroedd o Faes-glas, mae CPD Aberporth wedi bod heb gartref yn ystod y tymor diwethaf ar ôl colli eu cae sy'n eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dywedodd Rhys Vaughan Evans, cadeirydd y clwb: "Ers blwyddyn bellach, does ganddom ni ddim cae i chwarae arno, dim ystafelloedd newid, ac mae llawer o'r plant nawr yn gwneud pethau eraill, neu ddim yn gwneud unrhyw beth, a dyna sy'n torri fy nghalon i fod yn onest.
"Rydym yn gweithio'n galed i drio cael defnyddio'r cae eto, ac mae hynny yn ganlyniad i waith caled gwirfoddolwyr gweithgar a'r cyngor lleol.
"Ond mae angen cyfleusterau newid arnom, a rhywle i gymdeithasu. A dyna'r broblem, ac rwy'n gwybod bod llawer o bentrefi eraill yn teimlo'r un rhwystredigaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae buddsoddi mewn cyfleusterau ar lawr gwlad yn ymrwymiad allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu.
"Rydym wedi dyrannu cyllideb o £24m ar gyfer y tair blynedd nesaf, mae hyn yn ychwanegol i'r £13.2m y llynedd, i sicrhau gwelliannau sy'n allweddol i gynyddu cyfranogiad ar draws pob camp."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2022