'Gwarth llwyr' bod Cwpan y Byd ddim yn ddiogel

Mae nifer o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru sy'n perthyn i'r gymuned LDHT wedi penderfynu peidio mynd i Qatar ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd ym mis Tachwedd oherwydd bod agwedd y wlad tuag atynt.

Wedi bwlch o 64 o flynyddoedd, fe fachodd Cymru le yn rowndiau terfynol y twrnament ar ôl trechu Wcráin yn y gemau ail gyfle ddechrau Mehefin.

Ond er mor gryf yr awydd i fod yn dyst i ymgyrch tîm Robert Page yn Qatar ei hun, mae cefnogwyr LDHT yn credu na fyddai'n ddiogel iddyn nhw deithio i wlad ble mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon ac yn arwain ar gyfnodau o garchar.

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, eisoes wedi datgan na fydd rhai aelodau staff y gymdeithas yn mynd i Qatar chwaith am yr un rhesymau.

Ac mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud y dylid defnyddio'r cyfle i drafod materion hawliau dynol gyda'r awdurdodau yn Qatar "tra bod llygaid y byd ar y wlad".

Un o'r cefnogwyr selog sy'n cadw draw o Qatar yw Seiriol Dawes-Hughes, sy'n uwch gynhyrchydd gyda rhaglen Sgorio S4C.

"Dyw hi ddim yn ddiogel i mi fynd i Qatar - dyna y sefyllfa, yn syml," dywedodd. "Dyw hi 'rioed 'di bod yn ystyriaeth i fi fynd ers i'r lleoliad ga'l ei gadarnhau.

"Nawr wrth gwrs mae'r freuddwyd wedi dod yn wir, mae Cymru yno ond taswn i'n ca'l y cynnig weithio yno neu'n meddwl mynd fel cefnogwr, dyw hi ddim yn edrych fel opsiwn."

"Dyw hi ddim yn saff, dyw hi ddim yn gyfreithlon i mi fod yno."