Rhai staff Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim yn mynd i Qatar

  • Cyhoeddwyd
Cymru yn dathlu wedi iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yn dathlu wedi iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958

Ni fydd rhai o staff tîm pêl-droed Cymru yn teithio i Gwpan y Byd yn Qatar oherwydd agwedd y wlad at hawliau pobl hoyw.

Dywedodd pennaeth pêl-droed Cymru, Noel Mooney, y byddai'r tîm yn defnyddio'r digwyddiad fel "llwyfan" i drafod hawliau dynol yn Qatar lle mae bod yn gyfunrywiol yn anghyfreithlon.

Mae e hefyd yn gofyn i FIFA ac UEFA i "feddwl yn ddwys am eu cydwybod" wrth ddewis lleoliad gemau.

Mae swyddogion yn Qatar wedi dweud bod "y gemau i bawb".

Wedi buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Wcráin ddydd Sul, mae Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae penderfyniad FIFA i gynnal y gystadleuaeth yn Qatar wedi ennyn cryn feirniadaeth yn sgil record y wlad ar hawliau dynol.

Mae gan Amnest Rhyngwladol "nifer o bryderon" ac yn eu plith - y modd y mae'r wlad yn trin pobl hoyw a gweithwyr mudol.

Mewn cyfweliad ar raglen Politics Wales y BBC dywed prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, ei fod yn gobeithio y bydd y garfan yn defnyddio Cwpan y Byd fel digwyddiad i "hybu daioni".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Noel Mooney nad yw'n credu y dylai'r tîm foicotio'r gemau

Ychwanegodd: "Yr hyn y mae timau UEFA - sef timau Ewrop - yn bwriadu ei wneud yw defnyddio'r gystadleuaeth fel llwyfan ar gyfer cyflwyno gwelliannau.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen i fynegi ein barn ond dwi ddim yn credu mai'r "peth iawn" yw i'r tîm foicotio'r gemau."

Ond dywed na fydd rhai o'i ffrindiau na rhai o staff Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn teithio i Qatar oherwydd safiad y wlad ar hawliau pobl hoyw.

Dywedodd: "Dydyn nhw ddim yn mynd i fynd i'r twrnamaint ac mae ganddyn nhw hawl i wneud hynny.

"Bydd llawer iawn o bobl yn mynd ac yn deall y byddwn yn defnyddio'r digwyddiad fel llwyfan i geisio gwella bywyd yno ac i gael sgwrs werthfawr am faterion fel hawliau dynol... a gweithwyr mudol.

"Felly ry'n yn edrych ymlaen i gael rhan yn hynny a chael mwy o eglurder ar faterion eraill i gefnogwyr sy'n teithio," meddai Mr Mooney.

Mae aelodau o Wal yr Enfys, y grŵp cefnogwyr LHDTC+ swyddogol, hefyd wedi dweud na fyddan nhw'n teithio i Qatar i gefnogi y tîm.

Ychwanegodd Noel Mooney y byddai Wal yr Enfys "ar flaen ein meddyliau wrth i ni gynllunio ar gyfer Cwpan y Byd".

Ffynhonnell y llun, Tracy Brown
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gymunedau LHDTC+ yn poeni bod Cwpan y Byd yn cael ei gynnal yn Qatar

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd ei fod yn bryderus bod rhai llywodraethau yn defnyddio chwaraeon i dynnu sylw pobl oddi ar y gamdriniaeth o hawliau dynol.

"Roedd Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018 yn lwyddiant cysylltiadau cyhoeddus ysgubol.

"Rwy'n credu y byddai pawb yn dweud ei fod wedi bod yn lwyddiant mawr i Rwsia ond ry'n ni'n gweld beth sydd wedi digwydd wedyn wrth iddyn nhw ymosod ar Wcráin.

"Mae yna bryderon, yn sicr mae gen i rai, am sut mae chwaraeon yn gallu cuddio rhai pethau.

"Felly dwi'n meddwl bod rhaid i sefydliadau chwaraeon mawr fel y Gemau Olympaidd, FIFA, UEFA a chyrff tebyg, feddwl yn strategol ac yn ddwys am eu cydwybod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y dylai Cymru ddefnyddio'r cyfle i drafod materion yn ymwneud â hawliau dynol gyda'r awdurdodau yn Qatar

Tra'n siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y dylai Cymru ddefnyddio'r cyfle i drafod materion yn ymwneud â hawliau dynol gyda'r awdurdodau yn Qatar "tra bod llygaid y byd ar y wlad".

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Ry'n ni'n hynod o falch bod Cymru yn cael ei chynrychioli yn Qatar ond mae'n rhaid i ni fel cenedl beidio anwybyddu materion sy'n ymwneud â hawliau dynol yno."

Dywedodd Fatma Al-Nuaimi, cyfarwyddwr cyfathrebu gweithredol y pwyllgor yn Qatar sy'n trefnu'r gystadleuaeth: "Mae'n dwrnamaint i bawb, twrnamaint lle bydd pethau'n digwydd am y tro cyntaf ac yn dwrnamaint a fydd yn croesawu pawb."

  • Bydd mwy ar y stori hon BBC Politics Wales am 10:00 dydd Sul, 12 Mehefinar BBC 1Cymru ac yna ar iPlayer.