'Angen ymchwiliad annibynnol' wedi marwolaeth Logan Mwangi
Mae angen ymchwiliad annibynnol i wasanaethau plant wedi marwolaeth Logan Mwangi, medd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Mae angen i rywun "gymryd cam yn ôl", meddai'r Aelod o'r Senedd Jane Dodds, "ac edrych ar beth ddigwyddodd".
Rhaid sicrhau bod gweithwyr sy'n cael eu cefnogi a'u hyfforddi'n iawn yn eu lle drwy Gymru "i wneud yn siŵr... bod y plant yma yn cael eu gofalu amdanynt".
Ddydd Iau cafodd mam a llystad Logan Mwangi, ynghyd â bachgen 14 oed, ddedfrydau oes am lofruddiaeth y bachgen pum mlwydd oed.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd yn "ystyried yn ofalus" canlyniadau arolygiad diweddar o wasanaethau plant Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr.