Logan Mwangi: Carcharu mam, llystad a llanc am lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae mam, llystad a bachgen 14 oed wedi cael dedfrydau oes am lofruddiaeth bachgen pum mlwydd oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Logan Mwangi ei ladd ddiwedd Gorffennaf y llynedd gan Angharad Williamson, 31, John Cole, 40, a Craig Mulligan, sy'n cael ei enwi am y tro cyntaf yn dilyn her gyfreithiol yn y llys.
Clywodd yr achos bod corff Logan wedi ei roi mewn bag, a bod Cole wedi ei gario a'i adael yn Afon Ogwr gyda Mulligan.
Pan gafwyd hyd i gorff Logan ger ei gartref yn Sarn, roedd ganddo 56 o anafiadau allanol, a niwed mewnol difrifol i'w abdomen.
Clywodd y rheithgor y byddai gan Logan siawns 80% o oroesi'r anafiadau pe bai wedi ei gludo i'r ysbyty heb oedi, ac y gallai fod wedi cymryd oriau i farw.
Bydd Williamson dan glo am o leiaf 28 o flynyddoedd, a Cole am isafswm o 29 mlynedd.
Cafodd Craig Mulligan hefyd ddedfryd oes, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 15 mlynedd yn y ddalfa.
Yn dilyn y ddedfryd fe gafwyd cadarnhad gan y barnwr, Mrs Ustus Jefford, fod modd enwi'r llanc 14 oed - Craig Mulligan - am y tro cyntaf.
Ni chafodd ei enwi drwy gydol yr achos llys o dan ddeddf sy'n caniatáu i unrhyw berson ifanc sy'n ymwneud ag achos troseddol i aros yn anhysbys tan iddo droi'n 18 oed.
Dywedodd Mrs Ustus Jefford fod "bwlch sylweddol mewn unrhyw ddealltwriaeth o'r achos hwn" heb allu enwi Mulligan.
Clywodd y llys nad oedd Mulligan yn fab biolegol i Cole, ond roedd wedi bod dan ei ofal ers iddo fod yn naw mis oed.
Symudodd i gartref y teulu yn Sarn ar 26 Gorffennaf y llynedd - bum diwrnod cyn marwolaeth Logan.
Wrth ddedfrydu'r tri, dywedodd Mrs Ustus Jefford eu bod "i gyd yn gyfrifol am farwolaeth Logan" a bod ei farwolaeth yn "drasiedi".
Dywedodd fod yr ymosodiad ar y bachgen pump oed "diamddiffyn", oedd yn 3 troedfedd 5 modfedd a 3 stôn 1 pwys, yn "arswydus".
Disgrifiodd hefyd benderfyniad y cwpl i gadw Logan dan glo yn ei ystafell gyda Covid fel un "eithafol".
Dywedodd Mrs Ustus Jefford nad oedd yn derbyn honiad Williamson bod ymosodiad ar y dydd Iau wedi achosi anafiadau angheuol i Logan.
Ond dywedodd ei bod yn derbyn bod yr "ymosodiad corfforol wedi ei gyflawni gennych chi John Cole a'r diffynnydd yn ei arddegau [Craig Mulligan]".
"Rydych yn ddyn 40 oed ac fe wnaethoch chi ymosod ar blentyn bach diamddiffyn," meddai, gan wrthod y syniad nad oedd Cole wedi bwriadu lladd Logan.
Dywedodd y barnwr wrth Williamson ei bod hi'n "sicr na allai'r ymosodiad ffyrnig hwn fod wedi digwydd heb i chi wybod".
Dywedodd Mrs Ustus Jefford wrth Craig Mulligan ei bod yn derbyn ei fod wedi "ymosod yn gorfforol ar Logan" a'i fod wedi gwneud "fel y dywedodd John Cole wrthych neu i adlewyrchu ei weithredoedd".
Roedd y llys yn llawn i'r ddedfryd, gan gynnwys aelodau o deulu Logan Mwangi, perthnasau'r diffynyddion ac aelodau'r rheithgor a eisteddodd trwy'r achos.
Roedd Angharad Williamson yn crio drwy gydol y ddedfryd, gan ddal ei phen i lawr.
Ni ddangosodd John Cole na Craig Mulligan unrhyw emosiwn wrth iddyn nhw gael eu dedfrydu.
'Ni fydd yr atgofion yn pylu'
Cyn y dedfrydu clywodd y llys gan dad Logan, Ben Mwangi, a ddywedodd bod y byd yn le "oerach a thywyllach" heb wên ac egni ei fab.
"Logan oedd y bachgen mwyaf annwyl a phrydferth, a chafodd ei fywyd ei dorri'n drasig," dywedodd.
"Fydd yr atgofion arbennig sydd gen i o fy mab byth yn pylu; fe fyddan nhw yn fy nghalon a'm enaid am byth.
"Ro'n i'n ei garu gymaint, a rhywsut, mae'n rhaid i fi fyw fy mywyd gan wybod na fydda' i'n ei weld yn tyfu i fod y dyn arbennig y byddai wedi bod".
Fe wnaeth Mr Mwangi ddiolch i swyddogion yr heddlu, tîm yr erlyniad a'r rheithgor am "weithio'n ddiflino i ddod â'r rheiny sy'n gyfrifol am lofruddiaeth fy mab i'r llys".
'Un o'r achosion mwyaf ers blynyddoedd'
Dywedodd Iwan Jenkins, cyfreithiwr gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghaerdydd, bod hwn yn un o'r achosion mwyaf yng Nghymru ers rhai blynyddoedd.
"O ran nifer y bobl oedd ynghlwm â fe roedd e'n enfawr - nifer o bapurau, manylion yr achos - oedd e'n un o'r achosion mwya' ni wedi delio gydag e yma yng Nghymru am sawl blwyddyn," meddai.
"Roedd yr achos yn un manwl iawn oherwydd roedd y celwyddau oedd yn cael eu rhoi yn atal pobl [rhag] deall yn gwmws beth ddigwyddodd o fewn y tŷ."
Mae gwasanaeth erlyn y goron yn cydnabod bod cael gafael ar luniau camerâu diogelwch oedd ar dai cyfagos yn allweddol i erlyniad llwyddiannus.
"Wrth lwc roedd yna deledu cylch cyfyng oedd wedi dangos bod yna ddau yn gadael y tŷ yn cario beth oedd yn edrych fel - ac a brofodd i fod - corff Logan ar y pryd," meddai Mr Jenkins.
Mewn datganiad y tu allan i'r llys yng Nghaerdydd, dywedodd Huw Griffiths, ymchwilydd gyda Heddlu De Cymru, bod y dedfrydau i'w croesawu ond "na all unrhyw gyfiawnder ddod â Logan yn ôl".
"Mae'n amhosib meddwl bod bywyd Logan wedi cael ei dorri mor fyr dan amgylchiadau mor drasig gan y bobl hynny a ddylai wedi bod yno i'w amddiffyn," dywedodd.
"Mae Ben [tad Logan] a'i deulu wedi dangos cryfder anhygoel drwy gydol yr ymchwiliad a'r broses gyfreithiol.
"Gan wybod bod cyfiawnder wedi ei weinyddu yn achos Logan, gobeithio nawr y gallan nhw ailadeiladu eu bywydau a dathlu'r llawenydd y roddodd iddyn nhw yn ystod eu hamser gwerthfawr gyda Logan.
"Ar ran y ditectif arolygydd Lianne Rees, hoffwn dalu teyrnged i broffesiynoldeb swyddogion yr heddlu a chydweithwyr yn y gwasanaethau brys a wynebodd y golygfeydd mwyaf trawmatig posibl fis Gorffennaf diwethaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022