Aflonyddu merched yn 'gwbl gyffredin' yng Nghaerdydd
"'Nes i actually cael profiad o aflonydd rhywiol just cyn siarad gyda chi, i fod yn onest."
"'Nes i gerdded trwy Bae Caerdydd i gael cinio ar ben fy hunan, a 'naeth dyn diethr gerdded lan ata i... 'naeth e ddod yn agos iawn a thrio cusanu fi."
Wedi i fideo o ferch yn cael ei haflonyddu yng Nghaerdydd gael ei gwylio dros ddwy filiwn o weithiau ar TikTok, dywed Cerys Davage o Gaerdydd ei fod yn beth gwbl gyffredin.
Yn ôl Cerys, 20, nid yw'n bosib iddi gyfri' sawl tro mae hi wedi profi aflonyddu rhywiol.
"Dwi yn hynod falch bod y ferch yma wedi gallu siarad lan am ei phrofiad hi a rhannu'r fideo yma ar TikTok.
"Ma' fe'n ffordd gwych i godi ymwybyddiaeth - a nid dyma'r tro cyntaf dwi 'di gweld rhywun yn gwneud rhywbeth fel yma."