Menyw ifanc wedi'i haflonyddu yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Emma Grayson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Grayson yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd i fenywod ifanc a'u hannog i "siarad am y peth"

Mae menyw a gafodd ei haflonyddu gan ddyn yng Nghaerdydd wedi dweud i'r profiad ei gwneud i deimlo'n "anghyfforddus" ac yn "ofnus iawn".

Roedd Emma Grayson, 22, yn cerdded ar hyd Heol Casnewydd yn y brifddinas am tua 21:00 nos Sul pan ddechreuodd ddyn ei dilyn.

Nid oedd y dyn yn gadael llonydd iddi, ac fe barhaodd i'w dilyn er ei bod wedi gofyn iddo stopio.

Fe wnaeth Ms Grayson ffilmio'r digwyddiad a'i bostio ar wefan gymdeithasol TikTok i "godi ymwybyddiaeth" o'r hyn y mae hi a'i ffrindiau yn ei wynebu yn aml.

Mae'r fideo wedi'i wylio dros 1.5 miliwn o weithiau bellach.

'NA yn golygu NA'

Yn y fideo mae'r dyn yn dilyn Ms Grayson, sy'n fyfyrwraig marchnata ffasiwn ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Er bod y fideo'n un munud o hyd, dywedodd Ms Grayson fod y digwyddiad wedi para 10 munud.

Pennawd ei fideo oedd "Mae NA yn golygu NA".

Roedd y dyn yn dweud sylwadau a oedd yn achosi i Ms Grayson deimlo'n anghyfforddus: "Gwranda, mae gen i lawer o arian", "rwyt ti'n brydferth" a "pam dwyt ti ddim yn siarad â fi" er iddi ddweud nad oedd diddordeb ganddi.

Dywedodd ei bod wedi synnu ar nifer y sylwadau negatif y mae pobl wedi'u gwneud am y fideo.

"Roedd pobl yn dweud 'roedd hi siŵr o fod yn gwisgo dillad anaddas, roedd hi'n gofyn amdano…' roeddwn i'n meddwl byddai pobl yn sylwi ar agwedd y dyn, ac nid fy un i," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae 1.5 miliwn o bobl wedi gweld fideo Emma Grayson ar y gwefannau cymdeithasol

Dywedodd Ms Grayson ei bod hi'n teimlo'n ansicr iawn: "Mi roedd e'n sefyllfa ofnus iawn oherwydd doeddwn i ddim yn siŵr os oedd ganddo arf.

"Y peth gorau roedd rhaid i mi wneud oedd aros yn dawel a delio gyda'r peth.

"Doeddwn i heb sylwi pa mor wael oedd y sefyllfa tan i fi wylio'r fideo yn ôl."

'Mae'n digwydd o hyd'

Dywedodd Ms Grayson fod hon yn broblem y mae hi a'i ffrindiau wedi ei wynebu sawl gwaith, ond bod hwn yn "achos eithafol o aflonyddu".

Ychwanegodd ei bod fel arfer yn croesi'r heol i osgoi bod mewn sefyllfa amhleserus.

"Mae'n digwydd o hyd, ac nid dim ond yng Nghaerdydd chwaith," meddai.

"Mae wedi digwydd ar hyd fy oes, ers i fi droi yn 14 oed. Dwi'n cofio bod yn fy ngwisg ysgol a byddai pobl yn sgrechian 'ti'n brydferth' a sylwadau anaddas eraill."

Mae Ms Grayson yn gobeithio bydd y fideo'n sbarduno pobl i siarad am yr ymddygiad anaddas sy'n digwydd ar y strydoedd.

"Diolch i'r cyfryngau cymdeithasol mae'r sefyllfa wedi cael llawer mwy o sylw - mae pobl yn codi eu llais am y peth," meddai.

"Does dim ots pa mor ifanc neu hen yr ydych chi, mae'n rhaid siarad am y peth."

Pynciau cysylltiedig