Codi arian i greu cofeb i Dai Jones ar faes y Sioe Fawr

Mae Sioe Frenhinol Cymru wedi lansio apêl i godi arian ar gyfer creu cofeb i Dai Jones Llanilar ar gornel cylch y gwartheg.

Bu farw Dai Jones ym mis Mawrth eleni wedi dros 50 mlynedd o gyfraniad i gefn gwlad Cymru.

Dros y degawdau bu hefyd yn rhan annatod o ddarllediadau S4C o'r Sioe Frenhinol a'r Ffair Aeaf.

Dywedodd cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr CAFC, John T Davies eu bod yn teimlo "dyletswydd" i nodi cyfraniad Dai Jones.