Dai Jones, Llanilar wedi marw yn 78 oed

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Craig Duggan fu'n edrych 'nôl ar fywyd a gyrfa Dai Jones ar raglen Newyddion S4C

Yn 78 oed bu farw'r cyflwynydd poblogaidd Dai Jones, Llanilar.

Roedd wedi bod yn wael ers cryn amser ac ym mis Rhagfyr 2020 fe benderfynodd ymddeol o'i waith yn y byd darlledu oherwydd ei salwch.

Fel cyflwynydd roedd Dai Jones yn fwyaf adnabyddus - ymhlith y rhaglenni y bu'n eu cyflwyno roedd Siôn a Siân, Noson Lawen, Rasus, Ar eich Cais, Y Sioe Fawr a Cefn Gwlad.

Roedd Dai Jones yn "Gardi, yn Gymro ac yn gymeriad", meddai Aelod o'r Senedd Ceredigion, Elin Jones, wrth i gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards ddweud: "Nid gormodaeth fyddai dweud i ni golli trysor cenedlaethol heddiw."

Disgrifiad o’r llun,

Dai Jones yn cofio'n ôl dros hanner canrif o ddarlledu mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad dywedodd: "Ers hanner canrif dwi wedi cael y fraint o agor cil y drws ar holl gyfoeth cefn gwlad Cymru - yn gymeriadau, cymunedau, heb anghofio stoc o'r safon uchaf.

"Dwi 'di cael modd i fyw ac yn ystyried fy hun yn ddyn lwcus iawn fod wedi gallu gwneud hynny gyhyd.

"Diolch i bawb am rannu'r daith gyda mi - diolch am yr hwyl, y croeso a'r llawenydd - mae wedi bod yn falm i'r enaid, a'r atgofion yn rhai fyddai'n trysori am byth."

Roedd Charles Arch wedi bod yn ffrind i Dai ers dros 50 mlynedd.

Dywedodd: "O'n i'n meddwl bore 'ma 'dyn ni wedi cael stormydd sydd wedi difa tir ac ati, ond heddiw 'dyn ni wedi cael storm sydd wedi mynd a clamp o gefn gwlad oddi arno' ni."

Dywedodd bod Dai yn "berwi o ffraethineb", a'i fod yn "ofni yn fawr iawn bod ni wedi colli rhywbeth yng Nghymru heddiw na welwn ni byth mohono fo eto".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mari Lovgreen

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mari Lovgreen

Yn Llundain y ganwyd Dai Jones ac fe symudodd i Gymru yn blentyn at berthnasau iddo yn Llangwyryfon, Ceredigion.

Roedd gan ei rieni, y ddau yn enedigol o Geredigion, fusnes laeth yn ardal Holloway.

Ond doedd y Dai ifanc ddim yn hoff o fywyd y ddinas ac wedi un gwyliau yn Llangwyryfon fe benderfynodd aros gydag ewythr a modryb a pheidio mynd yn ôl i Lundain.

"Mynd ar wyliau adre roeddwn i wedyn - ond yn dyheu o hyd i ddod 'nôl i Geredigion. O'ch chi ffili gweld coeden o'r gwely yn Holloway," meddai mewn cyfweliad cynharach.

Disgrifiad,

Enillydd y Rhuban Glas yn 1970 oedd Dai Jones, Llanilar

Nid cyflwynydd yn unig oedd Dai - roedd yn ganwr ac yn ffermwr o fri ac fe wnaeth hefyd gynrychioli Cymru mewn treialon cŵn defaid rhyngwladol.

Yn 1970 yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman fe wnaeth ennill cystadleuaeth y Rhuban Glas ac yntau ond yn 26 oed.

"Roedden i wedi ennill yr unawd tenor ddydd Gwener, mynd adre amser cinio a mynd lawr wedyn ddydd Sadwrn ar ôl godro i gystadlu am y Rhuban Glas," meddai.

Wrth siarad â Cymru Fyw am y profiad dywedodd fod yr anrhydedd wedi agor cymaint o ddrysau eraill iddo mewn bywyd a'i fod yn brofiad yr oedd yn ei drysori'n fawr.

Yn ei 20au y dechreuodd ganu o ddifri', ac wedi iddo ennill mewn eisteddfod leol yn Nhyn-y-graig ger Swyddffynnon, aeth i gystadlu ar draws Cymru a chael gwersi canu.

Yn 1970 cyn ennill yn Eisteddfod Rhydaman fe enillodd am ganu yng Ngŵyl Fawr Aberteifi, Eisteddfod Môn ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen - llwyddiant a roddodd gynnig i fynd i'r Eidal yn ganwr proffesiynol ond doedd ganddo ddim diddordeb mewn gyrfa o'r fath.

Er ei lais tenor persain roedd wastad yn mynnu nad oedd yn fawr o gerddor nac yn gallu darllen cerddoriaeth.

"Mae gen i glust dda ac mae geiriau caneuon yn bwysig iawn i fi. Pan ro'n yn cael gwersi - o nhw'n arfer gweud wrthai pan o'dd ff ar y copi - Dai mae'n rhaid i ti agor mas nawr!"

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Siop y Pethe

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Siop y Pethe

Daeth nifer o anrhydeddau eraill yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaeth i'r Sioe Frenhinol, yr MBE ac ef oedd Llywydd y Sioe Frenhinol yn 2010 pan oedd Sir Ceredigion yn ei noddi.

Un oedd yn ffrind agos oedd John Davies, y ffermwr a chynghorydd o Sir Benfro, a ddywedodd bod y Sioe Frenhinol yn "ffodus iawn i gael ei lywyddiaeth e, i gael ei lais e, o'dd e'n sylwebydd graenus tu hwnt".

Bu'n cydweithio gyda Dai ar fwrdd rheoli y Sioe Frenhinol: "Fe gath e gydnabyddiaeth tu hwnt i'r fraint fwya'… yn 2010, cael Gwobr Goffa Syr Bryner Jones, sef yr Oscars o ran y Sioe Frenhinol, ac os oedd rhywun yn haeddu Oscar o gefn gwlad, Dai Jones Llanilar oedd hwnnw."

"Mae e di rhoi Llanilar ar y map, mae e di rhoi Cymru ar y map, ond yn anad dim, mae e di bod yn ffrind oesol i bob rhan o Gymru."

'Fydd neb fel Dai'

Roedd hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn treialon cŵn defaid rhyngwladol ac yn 2004 enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru.

Dywedodd Llywydd Senedd Cymru ac aelod Ceredigion, Elin Jones, bod Dai Jones yn "Gardi, yn Gymro ac yn gymeriad".

"Mae'n newyddion arbennig o drist, roedd Dai Llanilar yn gymeriad annwyl a mawr iawn, fe yw'n seleb ni yng Ngheredigion ers blynyddoedd."

"Roedd yn ddarlledwr proffesiynol ond yn werinwr hefyd, pencampwr cefn gwlad ac yn berson oedd yn Gocni a Chardi ar yr un pryd."

Ychwanegodd: "Ffraeth iawn ei dafod yn dweud y jôcs mwya' doniol, ambell waith bach yn risky hefyd, ond yn eu dweud â gwen gellweirus... roedd e'n trin pawb yn gyfartal ac yn gweld y gwerth ym mhawb."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dai Jones wastad yn mynnu ei fod yn ddyn o'r wlad er iddo gael ei eni yn Llundain

Yn gyfaill oes i Dai a'i wraig Olwen, dywedodd Beti Griffiths y bydd yn gadael "hiraeth a gwacter" ond "rhyddhad" hefyd wedi blynyddoedd o salwch.

Disgrifiodd ei ffrind fel "cyfathrebwr penigamp".

"Galle fe gyfathrebu â phlentyn bach i'r hynafgwr ac o'dd e, bob amser, o'ch chi'n cwrdd ag e ar y ffordd, p'un ai o'dd e yn ei Land Rover neu yn ei gar, 'tynna mewn!'.

"Roedd wastad amser 'efo Dai, er bod e yng nghanol ei brysurdeb."

Disgrifiad o’r llun,

Dai Jones a Jenny Ogwen - dau a fu'n rhan o'r gyfres Siôn a Siân o 1970 ymlaen

Ar raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru, dywedodd Jenny Ogwen, ffrind a chyd-gyflwynydd Siôn a Siân gyda Dai, ei fod yn "ddigrifwr, yn ganwr, a mor hamddenol i weithio gydag e".

"Fydd neb fel Dai, oedd e'n un o sêr Cymru.

"O'dd e'n one off fel ma' nhw'n gweud a o'dd e'n gallu ymdopi gyda phopeth.

"Mae'n anodd credu bod e di mynd, bydd e'n golled i'r genedl ac yn golled i ni gyd, ei ffrindiau fe."

Trysor cenedlaethol

"Nid gormodaeth fyddai dweud i ni golli trysor cenedlaethol heddiw", meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards.

"Roedd ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru, nid yn unig ar y tonfeddi radio ond drwy ei raglenni poblogaidd ar S4C yn aruthrol.

"Ond fel rhan annatod o arlwy BBC Radio Cymru dros flynyddoedd lawer y byddwn ni'n ei gofio fwyaf a'i gwmnïaeth ar nos Sul yn hwb a chynhaliaeth i lawer.

"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn."

Ffynhonnell y llun, Cefn Gwlad/S4C

Dywedodd S4C bod Dai Jones "ar y brig" ar restr detholion darlledwyr Cymru, a bod ganddo'r "ddawn naturiol honno o gael y gorau mas o bobl, gan ddefnyddio ei ffraethineb, doniolwch a chynhesrwydd naturiol i gyflwyno myrdd o gymeriadau bythgofiadwy i gynulleidfa deledu chwilfrydig" Cefn Gwlad.

Dywedodd cyfarwyddwr cynnwys y sianel, Geraint Evans: "Wrth i ni gydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau, rydyn ni'n talu teyrnged i un o ddarlledwyr mwyaf talentog teledu Cymru.

"Wedi ei eni yn Llundain ond gyda'i galon yng nghefn gwlad Cymru erioed, roedd Dai yn apelio at bawb o gefndiroedd dinesig a gwledig."

Cafodd ei ddisgrifio fel "personoliaeth unigryw" gan bennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru, Phil Henfrey.

"Roedd ei angerdd dros Gymru; ei frwdfrydedd dros bobl a'i gynhesrwydd yn disgleirio ym mhopeth a wnâi."

Mae'n gadael gwraig, Olwen ac un mab, John.