Cyn-chwaraewr yn 'deall' achos dementia yn erbyn cyrff rheoli rygbi
Mae cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol wedi dweud ei fod yn deall pam fod cyn-chwaraewyr a'u teuluoedd yn lansio achos cyfreithiol yn erbyn cyrff rheoli'r gamp.
Yn ôl cyfreithwyr ar ran 180 o gyn-chwaraewyr, mae'r cyrff llywodraethu rygbi wedi methu â chymryd camau rhesymol i amddiffyn chwaraewyr rhag anaf parhaol a achoswyd gan "ergydion cyfergyd ac is-gyfergyd ailadroddus".
Dywedodd cyn-fewnwr y Dreigiau a'r Gleision, Wayne Evans, ar Dros Frecwast, ei fod yn deall yr angen i hawlio arian er mwyn sicrhau gofal yn y dyfodol.
Ddydd Llun, mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol arall wedi sôn am ei ofn na fydd yn adnabod ei blant ymhen pum mlynedd, wedi iddo gael diagnosis o ddementia cynnar.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth cyn-gapten Cymru, Ryan Jones, ddatgelu ei ddiagnosis yntau hefyd.