''Dan ni'n wag, 'dan ni lawr i'r cnawd go iawn'
Mae Hari Jones, bachgen chwech oed o Gaernarfon, angen goruchwyliaeth barhaol oherwydd cyflwr prin sy'n golygu nad ydy o'n gallu symud nac anadlu ar ei ben ei hun.
Mae X-linked myotubular myopathy (XLMTM) ond yn effeithio ar tua un ym mhob 50,000 genedigaeth wrywaidd.
Mae'n achosi gwendid yn y cyhyrau ac mae Hari'n hollol ddibynnol ar beiriant anadlu a thraceostomi - tiwb yn ei wddf - i'w gadw'n fyw.
Pan gafodd Hari fynd adref am y tro cyntaf, yn bedair oed, o Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl, roedd y teulu wedi cael gwybod y byddai angen gofal "rownd y cloc".
Roedden nhw i fod i gael pecyn gofal oedd yn cynnwys ymweliadau rheolaidd â'u cartref.
Byddai gofalwyr yn dod yno ddydd a nos i wneud shifftiau 12 awr gan fod angen rhywun i fod gyda Hari drwy'r amser.
Ond mae ei deulu'n dweud bod problemau wedi bod gyda'i becyn gofal, a'u bod dan straen aruthrol o'r herwydd.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am ddarparu cefnogaeth ers mis Mawrth y llynedd wedi i gwmni preifat dynnu'n ôl.
Mae'r bwrdd yn cydnabod bod yna "heriau ar adegau o ran staffio" ond eu bod yn "parhau i weithio'n agos" gyda'r teulu.