'Mor bwysig cael gofal yn ein hiaith gyntaf'

Mae cynllun newydd sy'n cael ei gyhoeddi gan y gweinidog iechyd ar faes y Brifwyl yn canolbwyntio ar hybu gwasanaethau iechyd a gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae hyn yn dilyn ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru gan banel annibynnol sy'n dweud fod "hyn yn her, sy'n gofyn am newid diwylliannol enfawr".

Cafodd Glenda Roberts o Bwllheli ddiagnosis o ddementia yn ei 50au, ac mae hi'n dweud fod cael gofal yn y Gymraeg wedi bod yn allweddol iddi.

"Dwi'n meddwl bod hi mor bwysig fod pobl yn cael eu gofal yn eu hiaith gyntaf. Dim ots pwy ydyn nhw. Mae ganddyn nhw'r hawl yna," dywedodd.

"Ma' pobl yn anghofio dau air pan ma' rhywun yn mynd i care home, a'r geiriau yna 'di care a home. Ma' nhw'n talu lot fawr o bres i fod yma, ac mae ganddyn nhw'r hawl i siarad eu hiaith gyntaf."