Cynllun i hybu gwasanaethau iechyd a gofal yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Hybu gwasanaethau iechyd a gofal trwy gyfrwng y Gymraeg yw bwriad cynllun newydd sy'n cael ei gyhoeddi gan y gweinidog iechyd ar faes y Brifwyl.
Mae hyn yn dilyn ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru gan banel annibynnol sy'n dweud fod "hyn yn her, sy'n gofyn am newid diwylliannol enfawr".
Un o brif elfennau'r strategaeth newydd yw'r egwyddor sy'n cael ei adnabod fel y Cynnig Rhagweithiol.
Mae hwn yn rhoi'r cyfrifoldeb ar y darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, yn hytrach nag ar y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth i orfod gofyn amdanynt.
Eisoes mae cynllunio'r gweithlu, hyfforddi staff, systemau digidol a newid y diwylliant ynghlwm wrth y cynllun pum mlynedd - Mwy na Geiriau.
Cynllun yw hwn sy'n gweithio tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i bawb sy'n ei ddymuno.
'Methu'n glir â chael y geiriau allan'
Cafodd Glenda Roberts o Bwllheli ddiagnosis o ddementia yn ei 50au, ac mae hi'n dweud fod cael gofal yn y Gymraeg wedi bod yn allweddol iddi.
"Fel ma' dementia yn mynd yn ei flaen, ma' pobl yn mynd yn ôl at eu hiaith gyntaf, ac rydw i'n teimlo fod Saesneg wedi mynd yn anodd iawn i fi siarad achos dwi methu'n glir â chael y geiriau allan," meddai.
"'Sa chi'n gofyn i fi 'would you like a cup of tea?' bellach ymlaen yn fy mywyd, ella 'swn i ddim yn ateb chi.
"Ma' pobl yn meddwl mai ddim yn clywed yn iawn ydy o, ond ddim deall ydy o.
"Dwi'n meddwl bod hi mor bwysig fod pobl yn cael eu gofal yn eu hiaith gyntaf. Dim ots pwy ydyn nhw. Mae ganddyn nhw'r hawl yna.
"Ma' pobl yn anghofio dau air pan ma' rhywun yn mynd i care home, a'r geiriau yna 'di care a home. Ma' nhw'n talu lot fawr o bres i fod yma, ac mae ganddyn nhw'r hawl i siarad eu hiaith gyntaf."
Dywed y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Er bod cynnydd wedi'i wneud ers lansio ein cynllun gwreiddiol bum mlynedd yn ôl, bellach mae angen i ni gynnig mwy, yn gyflymach, er mwyn cyflawni'r cynnig hwnnw."
Fe gafwyd gwerthusiad annibynnol o Mwy na Geiriau gan grŵp annibynnol o dan gadeiryddiaeth Marian Wyn Jones.
Buon nhw'n ystyried profiad cleifion a thystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, y GIG a gofal cymdeithasol, rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol, a'r sectorau addysg a hyfforddiant.
"Mae'n ymddangos bod y momentwm wedi arafu," meddai Ms Jones.
"Nid yw'r fframwaith wedi llwyddo i gyflawni'r newid sylweddol angenrheidiol."
'Amharod i ofyn'
Mae hefyd yn sôn bod y "cynnydd wedi bod yn anghyson, gydag amrywiaeth eang o ran ansawdd a nifer y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael".
Wrth gyhoeddi'r strategaeth newydd dywedodd Ms Morgan: "Pan fydd pobl yn derbyn gofal neu'n ceisio'i drefnu, fel arfer dyna'r adeg pan fyddan nhw fwyaf bregus.
"Felly, mae bod yn gyfforddus yn eu hiaith eu hunain yn bwysig."
Mae ymchwil y llywodraeth hefyd yn dangos fod pobl yn "aml yn ei chael hi'n anodd cael gwasanaethau yn y Gymraeg, a'u bod yn amharod i ofyn pan nad oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig".
Mae'r cynllun yn cynnwys sawl cam gweithredu, o dan bedair thema:
Diwylliant ac arweinyddiaeth;
Cynllunio a pholisïau o ran y Gymraeg;
Cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu;
Rhannu arfer da.
Ychwanegodd y gweinidog iechyd: "Mae bron 200,000 o staff yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
"Felly, dyma gyfle arbennig iawn hefyd iddyn nhw arwain y ffordd wrth gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Mewn ymateb i gyhoeddi cynllun newydd Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru, dywedodd dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price fod lansio'r cynllun newydd yn "gam pwysig ymlaen".
"Mae cryn waith i'w wneud i gryfhau lle'r Gymraeg yn y sector iechyd, gan gynnwys datblygu a chynllunio'r gweithlu, a chasglu a defnyddio data addas i alluogi hynny.
"Gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru'n plethu'r camau gweithredu sydd yn y cynllun newydd i mewn i raglen waith ail godi'r sector iechyd wedi'r pandemig."
Ychwanegodd Dr Catrin Hedd Jones, sy'n ddarlithydd mewn astudiaethau dementia ym Mhrifysgol Bangor ei bod yn croesawu strategaeth, ond fod hefyd angen sicrhau ei bod yn cael ei rhoi ar waith.
"Y gwirionedd yw gobeithio bod strategaeth yn golygu fod rhywbeth yn digwydd wedyn a helpu pobl i gael hyfforddiant ac annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, ac i fod yn falch eu bod yn ddwyieithog a'r gwahaniaeth mae'n gallu gwneud i bobl.
"Mae Cymru wedi symud 'mlaen gyda rheoliadau ac efallai bod angen nawr i'r neges dreiddio lawr i bawb sy'n ei gweithredu.
"Mae strategaeth yn grêt ond mae angen i bawb ddeall be' mae'n ei olygu i bawb sy'n byw â dementia ac sy'n siarad Cymraeg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018