Lluniau Dydd Mercher: Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae'n ail hanner wythnos yr Eisteddfod yn barod, a'r haul wedi dod yn ôl i'r Maes.
Dyma flas o'r brifwyl ddydd Mercher.

Euros o Ysbyty Cynfyn, Ponterwyd, yn mwynhau ei Steddfod gyntaf

Philomusica, Aberystwyth, yn rhoi sioe gerddorol i blant - Ceffyl y Sêr

Pwy sy'n edrych ar bwy? Mwynhau yn y Lle Celf

Y Lle Celf

Cyflwyno Tlws Dysgwr y Flwyddyn i Joe Healy. Y tri arall dderbyniodd dlysau am gyrraedd y rownd derfynol oedd Ben Ó Ceallaigh, Sophie Tuckwood a Stephen Bale

Y gynulleidfa'n mwynhau

Môr-leidr ifanc yn dysgu gan y meistr, Ben Dant a chriw Cyw

Tri llun o Mari, o Aberystwyth, yn cael ei hamgylchynu gan swigen - am gyfnod byr iawn!

Gwilym Bowen Rhys yn morio canu ym mhabell Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Sioned Erin Hughes yn cael ei chludo o'r pafiliwn ar ôl ennill y Fedal Ryddiaith

Miriam ac Oliver o Fae Colwyn mewn lle poblogaidd i bobl ifanc - lle i bweru eu ffonau symudol

Maggi Noggi wedi gwirioni ar ôl dod o hyd i le gwerthu pitsa a prosecco

Tri o fyfyrwryr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth Lowri Bebb, Twm Ebbsworth ac Elain Gwynedd yn paratoi am gwis barddonol yn erbyn y gelyn... myfyrwyr Bangor

