Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022: Sywel Nyw gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Enillydd albwm Cymraeg y Flwyddyn yw Deuddeg gan Sywel Nyw.

Cafodd holl ganeuon yr albwm eu rhyddhau fesul mis rhwng 2020 a 2021. Rhoddodd y cyfnod clo cyntaf, pan gyfansoddwyd y rhan fwyaf o'r albwm, gyfle i Lewys Wyn gydweithio â nifer o artistiaid gan gynnwys Endaf Emlyn, Gwilym a Casi Wyn.

Dywedodd Lewys fod yn rhoi'r clod am syniad o ryddhau cân fesul mis i'r band Creision Hud a wnaeth rhywbeth tebyg yn 2009.

I nodi ennill y wobr aeth Lewys i Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd i recordio fersiwn byw o ambell drac gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn ymuno ag o yno roedd Glyn Rhys-James o'r band Mellt i recordio'r gân Bonsai a Lauren Connelly i recordio 10/10.

Eleni, am y tro cyntaf, cafodd enillydd y wobr hon ei enwi a'i anrhydeddu ym Mhafiliwn yr Eisteddfod - yn yr un seremoni â Thlws y Cerddor.