Eisteddfod 2022: Edward Rhys-Harry yn ennill Tlws y Cerddor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Edward Rhys-Harry

Edward Rhys-Harry yw enillydd Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Y dasg eleni oedd creu opera fer o un gân gorws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad cryno o'r opera gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy'n bodoli eisoes.

Mae syniad yr opera yn ei ben ers degawd meddai, a gweld gofynion y gystadleuaeth oedd yr "ysbrydoliaeth i eistedd i lawr ac actually dechrau gwneud y peth yn y lle cyntaf".

"Mae ennill y tlws yn rhywbeth arbennig - ar lefel ar wahân i finne yn bersonol.

"Dwi byth wedi ennill rhywbeth fel hyn o'r blaen felly mae hwn yn rhywbeth arbennig iawn fel aelod o'r orsedd, fel eisteddfodwr dwi just yn really falch fy mod i wedi ennill, a dwi just yn really thrilled i ennill y peth."

Yn ogystal â'r tlws, mae Edward - neu i ddefnyddio ei ffugenw, Picard - hefyd yn derbyn £750 ac ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo'i yrfa.

Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn Nhregaron brynhawn Mercher, oedd ar y cyd â seremoni Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

Dywedodd Mr Rhys-Harry ei fod yn "brofiad gwych" cael bod ar y llwyfan, a'i fod wedi trafod gydag enillydd Albwm y Flwyddyn, Lewys Wyn, ar "rhyw fath o collab yn y dyfodol".

"Fi'n meddwl bod 'na ddigonedd o le i gael opera roc Cymraeg felly pam lai."

'Ein denu i rywle newydd'

Y beirniaid eleni oedd Gwion Thomas, John Metcalf a Patrick Young.

Wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran y tri, dywedodd Gwion Thomas fod yr Eisteddfod wedi gosod "her hynod anodd i gyfansoddwyr ac i feirniaid".

"Mae pwnc Picard, Yr Islawr yn ein denu ni i rywle newydd," meddai wrth gyfeirio at yr enillydd.

"Mae'r cantorion i gyd mewn lifft sydd wedi torri i lawr. Cawn gorws egnïol, dramatig gyda'r geiriau'n dod drosodd yn glir, gyda help ailadrodd.

"Rydym yn clywed dylanwad theatr gerdd Americanaidd, cyfansoddwyr fel Menotti. A dylanwad Agatha Christie... mae yna addewid fan hyn, er fod yna ddiniweidrwydd a symlrwydd i'r cyfansoddi, ac rydyn ni fel beirniaid wedi cydfynd â phenderfyniad ein mwyafrif a rhoi gwobr Tlws y Cerddor eleni i Picard."

Pwy ydy Edward Rhys-Harry?

Mae Edward Rhys-Harry yn byw yn Llundain ac yn gweithio ar draws y DU ac yn rhyngwladol fel hyfforddwr llais, beirniad, cyfansoddwr, trefnydd ac arweinydd.

Mae'n cyfansoddi'n rheolaidd ar gyfer byd teledu, gyda'i gerddoriaeth i'w chlywed ar S4C, Sky Sports ynghyd â hysbysebion ar ITV.

Mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer BBC 1, 2, 3, 4 a'r holl sianeli radio, yn ogystal ag ymddangos ar raglenni fel The Apprentice - You're Fired, Dr Who, This Morning a Sport Relief.

Mae ei drefniannau lleisiol yn ymddangos ar y trac sain ar gyfer cynhyrchiad FOXTV/BBC o A Christmas Carol (2019) gyda Guy Pearce.

Yn 2021 daeth yn gyfansoddwr cyswllt yn Theatr Genedlaethol Llundain ar y Southbank, a'i gyfansoddiad cyntaf oedd y gerddoriaeth ar gyfer y cynhyrchiad o Under Milk Wood, lle bu'n gweithio'n agos gyda Michael Sheen a'r Fonesig Sian Phillips.

Edward yw cyfarwyddwr artistig Côr Siambr Cymru/Chamber Choir Wales, côr siambr proffesiynol ad hoc, yn ogystal â The Harry Ensemble.

Mae wedi arwain mewn gwyliau cerdd ym Melbourne, Awstralia, Trevelin ym Mhatagonia, a Pennsylvania, Boston, Philadelphia ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.

Ar hyn o bryd mae'n gyfarwyddwr cerddorol rheolaidd Corale Cymry Llundain a Chorws Harlow, yn ogystal â chyfarwyddwr cerdd a phrif arweinydd Côr Meibion Cymry Llundain.

Yn 2020 cafodd ei gydnabod am ei ymrwymiad i gerddoriaeth Cymru drwy dderbyn Gwobr Glanville Jones am gyfraniad eithriadol i gerddoriaeth yng Nghymru, gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru.