'Mae'r esgid yn gwasgu tipyn bach yn fwy'
Mae teuluoedd ar draws Cymru'n wynebu dewisiadau anodd wrth i brisiau godi ynghynt nag unrhyw bryd mewn 40 mlynedd.
Mae'r ffigyrau diweddaraf a ryddhawyd fore Mercher yn dangos fod chwyddiant wedi cynyddu i 10.1% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2022 - i fyny o 9.4% fis ynghynt.
Mae Elen Davies, sy'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i gŵr Gareth a'u mab 20 mis Guto, wedi gweld bil bwyd wythnosol ei theulu'n dringo'n gyson ers dechrau'r flwyddyn.
Dywed bod pris rhai bwydydd iach, yn arbennig, wedi codi yn sylweddol ond bod prynu'r bwydydd hynny'n bwysig i'w phlentyn ifanc.
Am y tro cyntaf erioed dywed ei bod hi'n gorfod rhoi mwy o ystyriaeth i'r hyn mae'n ei brynu wrth siopa a bod y bygythiad o gostau ynni yn cynyddu eto yn codi ofn arni wrth i'r teulu ddisgwyl eu hail blentyn.