'Gorfod dewis a dethol' wrth i chwyddiant gyrraedd 10.1%
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd ar draws Cymru'n wynebu dewisiadau anodd wrth i brisiau godi ynghynt nag unrhyw bryd mewn 40 mlynedd.
Mae'r ffigyrau diweddaraf a ryddhawyd fore Mercher yn dangos fod chwyddiant wedi cynyddu i 10.1% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2022 - i fyny o 9.4% fis ynghynt.
Mae Elen Davies, sy'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i gŵr Gareth a'u mab 20 mis Guto, wedi gweld bil bwyd wythnosol ei theulu'n dringo'n gyson ers dechrau'r flwyddyn.
"Pan y'ch chi'n mynd rownd y siop 'dych chi ddim yn gweld y gwahaniaeth, cwpl o geiniogau falle am y pethau unigol ond pan chi'n mynd i'r til i dalu, wedyn ma' fe wedi mynd lan - bydden i'n gweud rhwng £20 a £30 yn wythnosol," meddai.
Mae chwyddiant y DU wedi codi'n gyson o 4.9% ym mis Ionawr i'r gyfradd bresennol, gyda diwedd y pandemig, y rhyfel yn Wcráin a gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi cyfrannu at y sefyllfa.
Y Deyrnas Unedig sydd â'r gyfradd uchaf o blith aelodau'r G7 ar hyn o bryd.
Ond mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd chwyddiant yn cynyddu eto'r gaeaf nesa' pan fydd prisiau tanwydd yn codi ymhellach ym mis Hydref ac eto ym mis Ionawr, wrth i'r cap ar bris ynni gynyddu.
Eisoes mae cost trydan a nwy i deulu ar gyfartaledd wedi codi o £1,200 y flwyddyn i £3,500, gyda rhai'n rhagweld biliau o dros £4,200 y flwyddyn nesa'.
Mae prisiau ynni Cymru eisoes gyda'r uchaf drwy'r Deyrnas Unedig.
Fe fydd yr amseru hynny'n anodd i Elen Davies.
Mae'n disgwyl ei hail blentyn ddiwedd Ionawr - bryd hynny, tra bydd hithau ar gyfnod mamolaeth, dywed y bydd incwm y teulu'n gostwng.
"Y [cynnydd] ym mis Ionawr sy'n peri'r gofid mwya' i ni. Ma' fe'n lot o arian ond yw e?
"Pan chi'n edrych nôl flwyddyn at beth yw e nawr, mae'n anodd credu bod e'n gallu digwydd mewn ffordd, bod dim camau'n cael eu rhoi mewn lle sydd yn atal y prisiau hyn rhag codi a chadw i godi."
Basged o nwyddau cyffredin sy'n sail i ffigwr chwyddiant y swyddfa ystadegau a sut mae prisiau'r nwyddau hynny yn newid bob mis.
Mae Elen yn credu bod pris rhai bwydydd iach, yn arbennig, wedi codi.
"Yn bendant ni mo'yn bod ni'n prynu'r pethe iachus ar gyfer Guto i fwyta ac yn aml iawn y pethau iachus sy'n costi' fwy o arian," meddai.
Gyda chwyddiant yn debyg o godi eto mae'r teulu'n cydnabod eu bod nhw'n gorfod gwneud penderfyniadau mwy gofalus ynglŷn â'u gwariant.
"Ni'n meddwl: 'os y'n ni'n mynd i 'neud hyn y mis yma, ne' 'neud hyn yr w'thnos 'ma, falle wnewn ni ddim hyn...'
"Ry'n ni'n gorfod dewis a dethol yn fanylach beth y'n ni'n mynd i 'neud.
"Ni'n trio bod ni ddim yn dala 'nôl ar fwydydd ne' rwbeth fel'na achos ni'n mo'yn bod Guto a ni yn gallu cael y bwydydd gore', mwya' maethlon, ond ma' fe yn anodd a ni yn ffeindio bod ni yn gorfod meddwl lot yn fwy am y dewisiadau ry'n ni'n gorfod eu gwneud.
"Bydde lot gwell 'da fi weld y plant yn cael rh'wbeth a bod ni'n mynd heb."
Ffigyrau'n 'uwch na'r disgwyl'
Dywedodd yr economegydd yr Athro Dylan Jones Evans ar Dros Frecwast fore Mawrth fod y ffigyrau chwyddiant diweddaraf yn "llawer uwch nag oedd pobl yn ei ddisgwyl".
"Be' ma' Banc Lloegr wedi crybwyll ydy y bydd chwyddiant yn taro 13% o gwmpas diwedd y flwyddyn cyn dechra' dod i lawr," meddai.
"Ond os ydy chwyddiant wedi tyfu rŵan, yn ystod mis Gorffennaf, mae'n glir y bydd chwyddiant - os dydi pethau ddim yn newid - yn llawer uwch na'r hyn mae Banc Lloegr yn ei ddisgwyl.
"Os 'di hynny'n digwydd, be fydd yn digwydd hefyd ydy y bydd rhaid iddyn nhw godi cyfraddau llog i lefelau llawer uwch nag oedden nhw'n ei ddisgwyl, a fydd hynny yn taro pobl sydd efo morgais a busnesau sydd eisiau benthyg arian i fuddsoddi yn eu cwmnïau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022