'Profiad Gemau'r Gymanwlad yn anhygoel' i'r brodyr Croft

Wedi cipio medalau aur ac efydd yng Ngemau'r Gymanwlad, mae'r bocswyr Ioan a Garan Croft bellach â'u golygon ar y Gemau Olympaidd.

Mae'r efeilliaid o Grymych wedi dychwelyd adref ar ôl rhagori yn y cystadlaethau bocsio yn Birmingham.

Ond er disgrifio cynrychioli Cymru'n fel "anhygoel", mae eu gorwelion yn barod tuag at gemau Paris yn 2024.