'Afonydd yn isel a chronfeydd dŵr yn cwympo'n glou'
Am y tro cyntaf mewn dros 30 o flynyddoedd, mae gwaharddiad mewn grym mewn rhan o Gymru ar y defnydd o bibellau dŵr.
Mae'r gwaharddiad yn atal preswylwyr dros 60,000 o gartrefi yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin dyfrio planhigion, llenwi pyllau padlo a thwbâu twym, a golchi ceir a'u ffenestri gyda phibellau dŵr.
Bydd yna ddirwy o £1,000 am dorri'r rheolau, ac mae disgwyl i'r gwaharddiad fod mewn grym am rai wythnosau.
Roedd rhaid gweithredu, medd Dŵr Cymru, gan fod cronfeydd yr ardal wedi cyrraedd lefelau sychder yn dilyn y galw mwyaf erioed am ddŵr yn lleol yn ystod y tywydd poeth diweddar.
Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fore Gwener bod ardal ehangach de-orllewin Cymru bellach yn ardal o sychder yn swyddogol.
Wrth siarad ar ran CNC ar raglen Dros Frecwast, eglurodd Huwel Manley bod trothwy'r statws sychder swyddogol wedi ei gyrraedd gan fod lefelau afonydd yr ardal "wedi bod mor isel mor hir".
"Mae pawb yn meddwl bosib mae'r glaw yr wythnos hyn falle wedi helpu rhywfaint," meddai, ond er bod rhai o ardaloedd y gorllewin "wedi ca'l, falle, rhyw fodfedd o law", mae eraill ond wedi gweld "milimetr, ddou".