Gwaharddiad pibellau dŵr yn dod i rym yn y de-orllewin

  • Cyhoeddwyd
Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod ardal de-orllewin Cymru mewn sychder swyddogol

Mae gwaharddiad ar y defnydd o bibellau dŵr yn dod i rym yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener - y gwaharddiad cyntaf o'r fath yng Nghymru ers dros 30 mlynedd.

Bydd pobl yn cael dirwy o £1,000 am dorri'r rheolau, a fydd mewn grym am rai wythnosau.

Yn ôl Dŵr Cymru roedd angen gweithredu gan fod cronfeydd yr ardal wedi cyrraedd lefelau sychder, a bydd yn effeithio ar dros 60,000 o gartrefi.

Dywedodd y cwmni bod y galw mwyaf erioed wedi bod am ddŵr yn lleol yn ystod y tywydd poeth diweddar.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) hefyd wedi cadarnhau fore Gwener bod ardal de-orllewin Cymru mewn sychder swyddogol.

Mae CNC yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ledled Cymru, a dywed y bydd yn cymryd camau yn ôl yr angen.

'All gymryd amser hir i wella'

Mae'r gwaharddiad yn golygu nad oes hawl i bobol ddyfrio eu planhigion na golchi eu ceir gan ddefnyddio pibell ddŵr yn yr ardaloedd sydd wedi eu hefffeithio.

Ffynhonnell y llun, Dŵr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos ardal y gwaharddiad

Dywedodd Natalie Hall o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym wedi penderfynu datgan cyflwr o sychder yn ne-orllewin Cymru ar ôl iddi ddod yn amlwg bod y diffyg glaw a gwres diweddar wedi rhoi straen enfawr ar ein hafonydd, ein cronfeydd dŵr a lefelau dŵr daear.

"Gall effeithio ar rai o'n cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf gwerthfawr yn ogystal â systemau rydyn ni'n aml yn eu cymryd yn ganiataol, fel ein cyflenwadau dŵr.

"Er y gall rhai rhannau o Gymru fod yn dioddef glaw, fe all gymryd amser hir i wella o sychder o hyd, gan wneud dŵr yn adnodd gwerthfawr."

Yn ôl rheoleiddiwr y diwydiant, Ofwat, mae Dŵr Cymru yn colli tua 170 miliwn litr o ddŵr pob dydd oherwydd fod pibellau yn gollwng.

Mae cwmni Hafren Dyfrdwy - sy'n darparu dŵr yn ardaloedd Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint - yn colli tua 14 miliwn litr. Mae hynny'n ddigon i lenwi 74 pwll nofio maint Olympaidd bob dydd.

'Anodd iawn'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wendy Kinver yn berchen ar ardd sydd ar agor i'r cyhoedd er mwyn codi arian i elusen

Mae'r gwaharddiad ar y defnydd o bibellau dŵr yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin yn golygu na fydd pobl yn cael dyfrio eu planhigion, llenwi pyllau padlo a thwbâu twym na golchi eu ceir a'u ffenestri gyda phibellau dŵr.

Mae gan Wendy Kinver ardd tair erw ger Abergwaun sy'n cael ei hagor i'r cyhoedd i godi arian i elusen.

Dywedodd ei bod eisoes wedi colli nifer o blanhigion a choed oherwydd y tywydd poeth, sych, ac y bydd yn ei chael hi'n "anodd iawn" heb ei phibell ddŵr.

"Fel arfer mae'n ardd wlyb iawn felly rydyn ni wedi plannu planhigion i siwtio'r amodau hynny, felly wrth gwrs yn y tywydd yma maen nhw'n dioddef yn ofnadwy," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal de-orllewin Cymru mewn cyfnod o sychder swyddogol

"Yn ffodus, mae gyda ni bwll sy'n llenwi â dŵr ffynnon naturiol felly bydd fy ngŵr a finnau'n dyfrio â llaw o'r pwll ddydd a nos - mae'n waith llafurus."

Dywedodd Wendy ei bod wedi ei "synnu'n fawr" fod angen gwahardd pibau dŵr yn Sir Benfro.

"Fel arfer mae gennym ni dywydd mor wlyb dwi ddim yn deall pam nad yw Dŵr Cymru wedi llwyddo i storio'r dŵr yn ddigonol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Richards wedi cynllunio ei ardd yn Llandyfái yn benodol i wrthsefyll sychder

Mae Simon Richards wedi adfer hen ardd gyda wal o'i chwmpas yn Llandyfái.

Cynlluniodd ei ardd yn benodol i wrthsefyll sychder, yn rhannol oherwydd ei safle ar lethr sy'n wynebu'r de ger y môr, ond hefyd "oherwydd bod yr hinsawdd yn newid a bod dŵr yn mynd yn fwy prin a gwerthfawr".

Ychwanegodd bod angen dewis planhigion yn ddoeth, plannu yn ystod yr hydref yn hytrach na'r gwanwyn a chynaeafu dŵr glaw i gyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prif arddwr Gardd Goedwig Colby ger Llanrhath, Steve Whitehead, yn dweud mai addasu i newid hinsawdd yw un o'i bryderon mwyaf

Yng Ngardd Goedwig Colby ger Llanrhath dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'r prif arddwr Steve Whitehead yn dweud mai addasu i newid hinsawdd yw un o'i bryderon mwyaf.

"Rydyn ni'n casglu glaw oddi ar doeau ein hadeiladau a dim ond yn defnyddio pibau dŵr ar gyfer ein planhigion mewn potiau ac yn ein meithrinfa fach," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi bod yn "anodd gwylio" yr effaith ar lyffantod, madfallod dŵr a'r brithyll yn y dyfroedd bas.

Mae Water UK, sy'n cynrychioli diwydiant dŵr y DU, wedi dweud bod gwaharddiad ar bibellau dŵr fel arfer yn lleihau'r defnydd o ddŵr tua 10%.

Hwn yw'r cyntaf i gael ei gyflwyno yng Nghymru ers 1989, a dywedodd Dŵr Cymru y byddai'n parhau nes bod digon o law i ail-lenwi cronfeydd dŵr yn Sir Benfro.

Disgrifiad,

Huwel Manley o Gyfoeth Naturiol Cymru: 'Afonydd yn isel a chronfeydd dŵr yn cwympo'n glou'

Mae'r ardal yn cael ei gyflenwi'n bennaf gan gronfeydd dŵr yn Llys-y-frân a Rosebush.

Mae tanceri hefyd wedi bod yn cludo dŵr o safle yng Nghapel Dewi yn Sir Gaerfyrddin er mwyn ail-lenwi prif gyflenwadau dŵr yn Rhoshill ger Cilgerran.

Mae Cymru wedi'i rhannu'n 24 "parth dŵr" ac mae'r ardal sydd â'r gwaharddiad presennol yn un ohonyn nhw.

Mae cynllun sychder Dŵr Cymru yn nodi bod tirwedd Cymru yn golygu bod bob parth yn hunangynhaliol, gyda chyfleoedd cyfyngedig yn unig i drosglwyddo dŵr ar draws ffiniau'r parthau.

Dywedodd Ian Christie o Dŵr Cymru: "Nid yw'n benderfyniad yr ydym yn ei wneud yn ddi-hid gan ein bod yn gwybod yr anghyfleustra y gall ei achosi, ond os nad ydym yn gweithredu nawr, byddai risg wirioneddol o gyfyngiadau pellach yn ddiweddarach ac rydym wir yn ceisio osgoi hyn i'n cwsmeriaid.

"Rydym yn gwneud ein rhan ni hefyd, ac wedi cynyddu nifer y bobl yn yr ardal sy'n canfod ac yn trwsio gollyngiadau."