Canlyniadau TGAU: Disgyblion hapus wedi blwyddyn 'heriol'

Mae canlyniadau TGAU wedi cael eu cyhoeddi gyda llai o raddau uchaf o'i gymharu â 2021.

Ond mae'r canlyniadau'n uwch na phan gafodd yr arholiadau diwethaf eu cynnnal dair blynedd yn ôl.

Roedd chwarter y graddau TGAU yn A ac uwch a 68.6% yn A* i C, i lawr o 73.6% y llynedd pan gafodd y graddau eu dyfarnu gan athrawon.

Dyma ymateb rhai o ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU fore Iau