Canlyniadau TGAU yn is na'r llynedd ond yn uwch na 2019
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniadau TGAU wedi cael eu cyhoeddi fore Iau, gyda llai o raddau uchaf o gymharu â 2021, ond mae'r canlyniadau'n uwch na phan gynhaliwyd arholiadau ddiwethaf dair blynedd yn ôl.
Mae canlyniadau eleni yn dilyn patrwm tebyg i raddau Safon Uwch yr wythnos ddiwethaf wrth i gyrff arholi anelu at lywio'r system yn ôl i'r hyn oedd hi cyn y pandemig.
Roedd chwarter y graddau TGAU yn A ac uwch a 68.6% yn A* i C, i lawr o 73.6% y llynedd pan gafodd y graddau eu penderfynu gan athrawon.
Mae rhybudd y gallai rhai canlyniadau BTec, sydd hefyd i fod i gael eu rhyddhau ddydd Iau, gael eu gohirio ar ôl problemau tebyg yr wythnos ddiwethaf.
Yr hyn mae'r canlyniadau yn dangos
Roedd 25.1% o raddau A ac A* - hynny i lawr ar y llynedd ond cynnydd o 6.7 pwynt canran ers 2019;
Mae 68.6% o raddau A* i C yn welliant o 5.8 pwynt canran ar arholiadau cyn-bandemig yn 2019;
97.3% wedi pasio - A* i G - i fyny 0.1% ers tair blynedd yn ôl;
Cyfanswm cofrestriadau arholiadau TGAU oedd 311,072, sef gostyngiad o 5.4% ers y llynedd;
O ran derbyn A* i A, perfformiodd merched 8.1 pwynt canran yn well na bechgyn;
Mewn Mathemateg, roedd 18% o raddau A* ac A - cynnydd o 5% ers 2019 - tra bod 56.8% wedi cael C neu uwch;
Cafodd 22.1% A* ac A mewn Cymraeg iaith gyntaf (i fyny o 15.8% yn 2019) a 22.9% mewn Cymraeg ail iaith;
Roedd 19.5% o raddau Saesneg yn A* ac A, naid fawr ar 10.7% yn 2019.
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi llongyfarch pobl ifanc ledled Cymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau.
Dywedodd y gweinidog: "Dylech chi i gyd fod yn falch o'r gwaith caled wnaethoch chi drwy'r holl darfu a fu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Rwy'n croesawu'r canlyniadau hyn wrth i ni symud yn ôl at arholiadau eleni - mae'n wych gweld beth mae ein dysgwyr wedi ei gyflawni.
"Peidiwch â bod yn rhy siomedig a pheidiwch â bod yn rhy feirniadol ohonoch chi'ch hunan os nad aeth pethau fel yr oeddech yn ei ddisgwyl heddiw.
"Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael ichi, os ydych chi'n ansicr beth i'w wneud nesaf, neu efallai na wnaethoch sefyll eich arholiadau. Cysylltwch â Gyrfa Cymru neu'ch ysgol am gymorth."
Cyfeiriodd hefyd at y Gwarant i Bobl Ifanc, gan ddweud: "Caiff pawb sydd o dan 25 oed gyfle i gofrestru ar gyfer addysg neu hyfforddiant, i ddarganfod gwaith neu i fynd yn hunangyflogedig. Edrychwch ar Cymru'n Gweithio i ddarganfod sut i gymryd rhan.
"Gobeithiaf eich bod yn falch o'r hyn rydych wedi ei gyflawni, a phob lwc ichi ar eich camau nesaf."
'Trueni ofnadwy'
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones, "mae'n drueni ofnadwy bod Cymru unwaith eto ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill y DU ar gyfer y graddau uchaf, ac yn fwy pryderus mae'r gyfradd lwyddo yn sylweddol is nag mewn mannau eraill.
"Mae bron i 5% yn llai o fyfyrwyr sy'n pasio eu harholiadau yn cynrychioli diffyg erchyll, yn deillio o fethiant y llywodraeth Lafur i ddarparu safonau addysg boddhaol."
'Amgylchiadau anhygoel o anodd'
Dywedodd Dr Patrick Roach, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Athrawon NASUWT: "Dylid llongyfarch disgyblion a'u hathrawon am eu gwaith caled i gael canlyniadau heddiw er gwaethaf amgylchiadau anhygoel o anodd.
"Maen nhw wedi cyflawni eu canlyniadau er gwaethaf y tarfu ar eu haddysg ac yn bennaf er gwaethaf, yn hytrach nag oherwydd, y gefnogaeth a dderbyniwyd gan lywodraeth ar gyfer rhaglenni adfer addysg."
Ychwanegodd Dr Roach, "Ar ôl dathlu eu gwaith caled a'u hymroddiad mae'n iawn troi sylw at arholiadau yn y blynyddoedd i ddod.
"Mae pobl ifanc sy'n sefyll arholiadau yn 2023 hefyd wedi wynebu llawer o aflonyddwch i'w haddysg ac mae angen cymorth arnynt drwy fuddsoddi mwy mewn adferiad addysg.
"Mae athrawon yn haeddu i'w gwaith caled gael ei baru â dyfarniad cyflog adferol uwchlaw chwyddiant ar ôl degawd o erydiad cyflog mewn termau real."
Dadansoddiad ein Gohebydd Addysg, Bethan Lewis
Yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon fyddech chi ddim wedi gallu dyfalu bod unrhyw beth yn wahanol am ganlyniadau eleni - yr un bwrlwm, tensiwn ac ambell sgrech hapus.
Ond mae'r drefn eleni wedi cael ei lunio'n ofalus i geisio dygymod gyda chynnal arholiadau unwaith eto gan sicrhau bod canlyniadau'n "deg" i ddisgyblion.
Pan ofynnais i i'r Gweinidog Addysg oedd e'n teimlo rhyddhad bod pethau, ar hyn o bryd o leiaf, i weld fel petai nhw wedi mynd yn iawn fe wnaeth e chwerthin - "wrth ei fodd" am yr hyn mae disgyblion wedi cyflawni yn hytrach na rhyddhad, meddai.
Ond mae effaith Covid ar arholiadau yn parhau. Roedd e'n cydnabod bod disgyblion arholiadau flwyddyn nesaf wedi colli llawer o ysgol hefyd, ac mae hynny'n golygu troedio'n ofalus eto i sicrhau tegwch yr haf nesa'.
Fydd 'na ddim cynnwys yn cael ei dorri o gyrsiau fel ddigwyddodd eleni, ond bydd rhywfaint o wybodaeth yn cael ei roi o flaen llaw am beth fydd yn codi mewn arholiadau.
Rhagor o ymateb gan ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon
Iwan
"Da iawn, da iawn. Dwi'n falch iawn o fy nghanlyniadau i a dwi'n meddwl fy mod 'di neud yn reit dda i feddwl bod Covid 'di effeithio ar ddysgu ni.
"Oddan ni'n gorfod 'neud gwersi ar-lein ac o'dd hynna'n heriol iawn oherwydd oddan ni methu dysgu wyneb wrth wyneb efo'r athrawon, ac o'dd o'n anoddach i ddysgu yn fy marn i.
"Dwi am fynd i'r chweched dosbarth i 'neud y tri gwyddoniaeth a hanes."
Nedw
"Nath o fynd yn dda. Rili da, do. Ges i ddau A*, chwech A a thri B - yn union be' o'n i'n disgwyl.
"Odd y flwyddyn ddiwetha yn anodd - lot o waith a cholli athrawon a stwff, odd o'n strygl, ond dwi'n hapus iawn efo be ges i.
"Nôl i'r chweched am ddwy flynedd a wedyn uni."
Gruffydd
"Ath hi'n be o'n i'n ddisgwyl rili, rhan fwyaf o Bs, cwpl o As, fi'n hapus efo hynna.
"Odd hi'n flwyddyn reit heriol efo athrawon yn sâl, a ni'n methu ysgol oherwydd Covid, ond dyna be 'di bywyd.
"Gobeithio mynd i'r chweched nawr.
"Bach o ddathlu heno dwi'n siwr - mae'n braf cael y canlyniadau drosodd, dim mwy o fod yn nerfus, so dathlu heno.
Erin
"'Nes i neud yn rili dda, o'n i'm yn disgwyl be o'n i di gael - odd o di bod yn flwyddyn rili anodd gyda Covid, so dwi'n rili hapus efo canlyniadau fi heddiw ma.
"Dwi'n gobeithio ca'l dod i'r chweched dosbarth ac yna mynd ymlaen i'r brifysgol.
"Y peth anoddaf oedd peidio cael y gwersi wyneb yn wyneb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022
- Cyhoeddwyd21 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022