Angharad James: 'Lwcus' cael byw breuddwyd i Gymru

Wrth i dîm Merched Gymru baratoi am y "gêm fwyaf yn ei hanes", mae'r chwaraewr canol cae Angharad James yn edrych ymlaen at garreg filltir bersonol hefyd.

Fe fydd James yn ennill ei 100fed cap ddydd Mawrth, y chwaraewr ieuengaf i gyrraedd y nod i Gymru.

Cyn y gêm yn erbyn Slofenia yng Nghaerdydd, dywedodd James ei bod yn gwybod ers yn 15 oed ei bod am chwarae dros Gymru, a'i bod yn "lwcus" i gael byw ei breuddwyd.

Gwyliwch Cymru v Slofenia ar BBC Cymru Fyw, y gic gyntaf am 19:45.