Cymru i wynebu Slofenia i gyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Angharad James: 'Lwcus' cael byw breuddwyd i Gymru

"Y gêm fwyaf yn ein hanes" - dyna i chi eiriau rheolwr Cymru, Gemma Grainger, ac mae hi'n llygad ei lle.

Dim ond pwynt maen nhw ei angen yn erbyn Slofenia i gyrraedd gemau ail-gyfle un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Gydag un gêm o ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd yn weddill, mae hi'n frwydr uniongyrchol rhwng Cymru a Slofenia am yr ail safle yn y grŵp.

Cymru sy'n ail ar y funud, felly mi fydd gêm gyfartal yn ddigon iddyn nhw.

Mae'n rhaid i Slofenia ennill os am gadw eu gobeithion o gyrraedd y rowndiau terfynol yn fyw.

Disgrifiad,

Gwyliwch gôl gyntaf Carrie Jones i'r tîm cenedlaethol yn erbyn Groeg

Mae Cymru wedi boddi wrth ymyl y lan fwy nag unwaith dros y blynyddoedd, ond mae rhywun yn cael y teimlad fod y garfan bresennol yn barod i gymryd y cam nesaf.

Mi fydd yna record o dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd - dros 11,000 o docynnau wedi eu gwerthu - a'r gobaith ydy y bydd y gefnogaeth yna yn ddigon i weld y tîm yn creu hanes.

'Moment arbennig'

Bydd hi'n noson arbennig i chwaraewr canol cae Cymru, Angharad James, a fydd yn ennill ei 100fed cap.

Jess Fishlock, Lauren Dykes, Sophie Ingle, Helen Ward, Natasha Harding, Gareth Bale, Chris Gunter a Wayne Hennessey ydy'r chwaraewyr eraill sy'n rhan o'r clwb arbennig yma.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y 100fed cap yn foment arbennig ond yr hyn sy'n fwyaf pwysig yw ennill, medd Angharad James

Ond yn 28 oed, Angharad fydd yr ieuengaf i gyrraedd y garreg filltir.

Ers ennill ei chap cyntaf yn 16 oed mae hi wedi datblygu i fod yn un o chwaraewyr pwysicaf Cymru.

Mae hi'n gadarn yn amddiffynnol, yn llawn egni ac mae ganddi lygad am gôl.

"Mi fydd ennill fy 100fed cap yn foment arbennig, ond y peth pwysicaf ydy ein bod ni yn cyrraedd y gemau ail-gyfle," meddai.

Mae Angharad yn haeddu lot o glod am yr hyn y mae hi ar fin ei gyflawni ar lefel bersonol, ond bydd ei ffocws hi nos Fawrth ar geisio helpu'r tîm i gyrraedd y gemau ail-gyfle - "y gêm fwyaf yn ein hanes".

Gwyliwch Cymru v Slofenia ar BBC Cymru Fyw, y gic gyntaf am 19:45.