Darlun o'r dydd wrth i'r Brenin Charles III ymweld â Chymru

Mae'r Brenin Charles III wedi ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers iddo etifeddu'r Goron.

Cyrhaeddodd Cadeirlan Llandaf gyda'r Frenhines Gydweddog, Camilla ar gyfer gwasanaeth coffa - y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Aethon nhw ymlaen i Fae Caerdydd, ble roedd yna gynigion o gydymdeimlad ar ran Aelodau Senedd Cymru, ac i Gastell Caerdydd, ble roedd yna gyfarfodydd preifat a chyfle i gwrdd aelodau'r cyhoedd.