Charles III yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf fel Brenin
- Cyhoeddwyd
Mae'r Brenin Charles III wedi ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers iddo etifeddu'r Goron.
Cyrhaeddodd Cadeirlan Llandaf gyda'r Frenhines Gydweddog, Camilla ar gyfer gwasanaeth coffa - y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd ddydd Gwener.
Aethon nhw ymlaen i Fae Caerdydd, ble roedd yna gynigion o gydymdeimlad ar ran Aelodau Senedd Cymru, ac i Gastell Caerdydd, ble roedd yna gyfarfodydd preifat a chyfle i gwrdd aelodau'r cyhoedd.
Dyma eu hymweliad olaf â'r gwledydd datganoledig yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yr wythnos ddiwethaf.
Ymhlith yr oddeutu 440 o westeion arbennig yng Nghadeirlan Llandaf roedd gwleidyddion a chynrychiolwyr y lluoedd arfog, y gwasanaeth iechyd, y farnwriaeth a'r sector busnes.
Fe gafodd Beibl William Morgan ei gario fel rhan o'r orymdaith i'r Gadeirlan a'i osod ar yr Uwch Allor ar gyfer y gwasanaeth.
Roedd yna le amlwg i'r Gymraeg hefyd yn ystod yr achlysur, gan gynnwys darlleniad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford o Lyfr Cyntaf y Brenhinoedd.
Fe gafodd Hen Wlad Fy Nhadau ei chanu yn ogystal â God Save The King.
Wrth adael y Gadeirlan fe stopiodd car y pâr Brenhinol er mwyn iddyn nhw allu cerdded ar hyd y stryd i siarad â rhai o'r bobl yn y dorf, gan gynnwys plant ysgol lleol oedd yn chwifio baneri Cymru a'r DU.
Dywedodd un wrth BBC Cymru bod y Brenin wedi ei diolch yn Gymraeg wedi iddi hi ei groesawu yntau i Gymru.
Roedd yna sawl bloedd o 'God Save The King' gan rannau o'r dorf cyn i'r cwpl adael am Fae Caerdydd.
Roedd un ferch fach wyth oed o Dongwynlais â rheswm arbennig i edrych ymlaen wrth aros tu allan i'r gadeirlan.
"Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn achos byddai'n cael cwrdd â'r Brenin," meddai Queenie.
"Ro'n i 'ychydig yn nerfus i ddechrau. Rwy'n mynd i fod yn hapus pan welai'r Brenin.
"Mi wna'i gofio'r diwrnod yma am byth. Mae pawb yn yr ysgol yn fy ngalw'n frenhines!"
Dywedodd ei mam, Jane Thomas: "Mae'n foment mor bwysig mewn hanes.
"Rwy' wedi bod yn ffan mawr o'r teulu brenhinol erioed.
"Roedd fy Mam-gu a Mam hefyd, felly pan gyrhaeddodd fy merch, doedd ond un dewis! Mae hi'n dwli ar ei henw."
Mewn araith hanesyddol ddwyieithog, dywedodd y Brenin wrth Senedd Cymru bod Cymru â "lle arbennig" yng nghalon ei fam.
Dywedodd yn Gymraeg: "Diolch o galon am eich geiriau caredig."
Bu'n "fraint i fod yn Dywysog Cymru am mor hir", meddai, cyn dweud bod gan ei fab, William - Tywysog newydd Cymru - "gariad mawr at Gymru".
Dywedodd bod y "teitl hynafol" yn dyddio o gyfnod "arweinwyr mawrion Cymreig fel Llywelyn ap Gruffydd, y mae'r cof amdanynt, yn gywir yn dal yn cael eu hanrhydeddu".
Ychwanegodd: "O fod wedi ymweld â'r Senedd yn rheolaidd ers ei sefydliad, ac ar ôl clywed eich geiriau o'r galon heddiw, mi wn ein bod oll yn rhannu'r ymroddiad dwysaf i les pobl y wlad hon, ac y byddwn oll yn parhau i weithio gyda'n gilydd i'r perwyl hwnnw."
Roedd y Brenin yn ymateb wedi cynnig o gydymdeimlad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac anerchiad gan Lywydd y Senedd.
Yn ei haraith, dywedodd Ms Jones ei bod hi'n gobeithio y byddai'r "berthynas fodern rhwng y wlad hon, y Senedd hon, a'r Teulu Brenhinol wedi'i gwreiddio mewn parch".
Dywedodd bod y Frenhines, a fynychodd bob un o agoriadau swyddogol y Senedd ers dechrau datganoli ym 1999, "yn parchu'r Senedd hon oherwydd ei bod yn parchu dewisiadau democrataidd pobl Cymru".
Fe gyfeiriodd wedyn at Owain Glyndŵr, â'r ymweliad yn digwydd ar ddiwrnod blynyddol dathliad o'r Cymro diwethaf i fod yn Dywysog Cymru.
"O Senedd gyntaf Glyndŵr yn y 15eg Ganrif ym Machynlleth i'r un yr ydym wedi ymgasglu ynddi heddiw, mae ein stori'n hen ond mae ein democratiaeth yn ifanc ac yn uchelgeisiol.
"Fy ngobaith diffuant yw y bydd y berthynas fodern rhwng y Senedd hon, y wlad hon, y Senedd hon, a'r Teulu Brenhinol wedi'i gwreiddio mewn parch a'i chynnal gan ddealltwriaeth."
Roedd yna fonllefau o gymeradwyaeth wrth i'r pâr brenhinol adael y Senedd ac wrth i'w car gyrraedd canol y ddinas, ond roedd hefyd yn bosib clywed gwrthdystwyr yn bwio.
Cafodd cyfarfodydd preifat eu cynnal yn y castell - gyda Mark Drakeford, Elin Jones, arweinwyr crefyddol a chynrychiolwyr elusennau.
Fe gamodd wedi hynny i'r heulwen er mwyn cwrdd â rhai o'r cannoedd o bobl a gafodd fynediad i gaeau'r castell ar ôl ciwio tu allan trwy'r bore.
Un o'r bobl a siaradodd gyda'r Brenin oedd Joanne James, 36, o Gaerdydd wrth iddo ysgwyd llaw ag aelodau'r cyhoedd.
Roedd y profiad, meddai, "yn gwbl anhygoel", er iddi godi am 04:00 y bore a dechrau ciwio am 05:30 er mwyn sicrhau lle tu ôl i furiau'r castell.
"Roedd e mor ddymunol. Fe gymrodd y ddau gerdyn roedd fy mhlant wedi eu gwneud ac fe wnaeth e ofyn am eu hoedran.
"Roedd e wir â diddordeb ac fe ddywedodd 'a wnewch chi basio ymlaen fy niolch iddyn nhw'."
Ychwanegodd: "Rwy' wrth fy modd... ry'n ni wedi cwrdd â'r Brenin yn ei wythnos gyntaf ac yn ystod ei ymweliad cyntaf â Chymru, felly mae'n rhan o hanes."
Roedd miloedd o bobl wedi ciwio yn yr ardaloedd ger tri lleoliad yr ymweliad yn y gobaith o fod yn dyst i ran o'r ymweliad hanesyddol, ac roedd rhai wedi hawlio'u lle tu allan i'r Gadeirlan ers oriau mân y bore.
Roedd Liz Mynett yn Llandaf gyda'i mab Tomi, oedd â diwrnod i ffwrdd o'r ysgol.
"Mae'n bwysig i'r plant ddod yma," meddai.
"Mae'n neis bod y brenin yn dod i Gaerdydd ac i Gymru a'n bod ni'n cael bod yn rhan ohono fe."
Ond nid oedd pawb o blith y torfeydd yno i fynegi cefnogaeth.
Fe wnaeth nifer o unigolion amlygu gwrthwynebiad trwy ddal placardiau'n galw am ddileu'r frenhiniaeth.
Bu dwsinau o bobl yn cynnal "protest dawel"yn erbyn y Frenhiniaeth ger Castell Caerdydd, a drefnwyd gan y cyn-AS Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Yn dilyn yr ymweliad fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod wedi sgwrsio gyda'r Brenin Charles, oedd wedi mynegi "pryder" am sut y bydd pobl yn ymdopi gyda'r "gaeaf anodd" i ddod.
Mewn cyfweliad â Talk TV, dywedodd Mr Drakeford fod y Brenin hefyd wedi mynegi diddordeb mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a sut y gallai hynny "chwarae rhan fwy mewn diogelwch ynni yn y dyfodol".
"Mae'r Brenin wastad wedi bod â diddordeb uniongyrchol yn y pethau yma sy'n digwydd yn y Gymru fodern, dyfodol ein amaethyddiaeth, effaith newid hinsawdd," meddai.
"Fe wnaeth e hefyd grybwyll yr argyfwng costau byw, a sut y bydd hynny'n effeithio ar bobl yma yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2022
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022