'Siom bod dim ymchwiliad Covid penodol i Gymru'
Mae teuluoedd o Gymru a gollodd anwyliaid i Covid-19 yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu cydnabod yn gyfranwyr craidd yn yr ymchwiliad swyddogol.
Fe fydd gwrandawiadau cychwynnol yr ymchwiliad yn dechrau yn Llundain ddydd Mawrth.
Mae'r fargyfreithwraig Bethan Harries yn rhan o dîm o gyfreithwyr sy'n cynrychioli grŵp Bereaved Families for Justice Wales.
Dywedodd bod teuluoedd yn gobeithio am "archwiliad trwyadl" o'r pandemig a'r penderfyniadau a wnaed.