Sylwadau Drakeford am deuluoedd Covid-19 yn 'warthus'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cael ei gyhuddo o fod yn ansensitif am awgrymu fod teuluoedd a gollodd anwyliaid i Covid-19 wedi "symud ymlaen" o alw am ymchwiliad penodol ar gyfer Cymru.
Mae teuluoedd wedi bod yn galw am ymchwiliad Cymreig penodol, ond mae Llywodraeth Cymru yn dadlau mai'r lle gorau i ystyried y penderfyniadau gafodd eu gwneud yw trwy ymchwiliad i'r DU gyfan.
Mae gwrandawiadau cychwynnol yr ymchwiliad hwnnw wedi dechrau yn Llundain ddydd Mawrth.
Bwriad yr ymchwiliad, dan arweiniad y cyn-farnwr y Farwnes Heather Hallett, yw ystyried y paratoadau a'r ymateb i'r pandemig.
Bydd y rhan gyntaf yn ystyried pa mor barod oedd y Deyrnas Unedig ar gyfer digwyddiad o'r fath, gyda rhannau eraill yn ystyried penderfyniadau gan lywodraethau Cymru a'r gwledydd datganoledig eraill.
Mae grŵp ymgyrchu Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru cael eu cydnabod yn gyfranwyr craidd yn yr ymchwiliad.
Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mawrth bu'r gwrthbleidiau unwaith eto yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad penodol i Gymru ar y mater - rhywbeth mae Mr Drakeford wastad wedi'i wrthod.
Dywedodd y prif weinidog y bydd "dim ymchwiliad o'r math yna yma yng Nghymru", gan ychwanegu fod "y byd wedi symud ymlaen".
Aeth ymlaen i ddweud, o'r cyfarfodydd y mae ef wedi'u cael gyda'r teuluoedd, eu bod "yn symud ymlaen o barhau i ofyn am rywbeth sydd ddim am ddigwydd".
Dywedodd grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru ar Twitter bod hyn "ddim yn wir", a'u bod yn dal i bwyso am ymchwiliad penodol i Gymru.
Ychwanegodd Sam Smith-Higgins o'r grŵp ar Radio Wales fod sylwadau Mr Drakeford yn "warthus".
"Mae dweud bod y teuluoedd wedi symud ymlaen yn sarhaus," meddai.
"Y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, dylid craffu arnynt yng Nghymru."
'Clywed lleisiau o Gymru'
Roedd grŵp ymgyrchu Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru wedi gobeithio cael eu cydnabod yn gyfranwyr craidd, fydd yn rhoi llais ffurfiol iddyn nhw yn yr ymchwiliad.
Cadarnhaodd Cwnsler yr ymchwiliad, Hugo Keith KC, bod y grŵp wedi cael y statws hwnnw ar gyfer rhan gyntaf yr ymchwiliad - Modiwl 1 - sy'n asesu pa mor barod oedd y DU ar gyfer y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd ymhlith y cyfranwyr craidd.
Yn ôl Anna-Louise Rees-Marsh o'r grŵp, mae'n bwysig bod lleisiau o Gymru yn cael eu clywed.
"Mae'n golygu y gallwn ni ofyn y cwestiynau cywir, a chael yr atebion cywir.
"Un o'r prif resymau i ni sefydlu'r grŵp oedd oherwydd nad oedden ni'n cael atebion o'r llefydd arferol.
"R'yn ni'n gwybod nad bwriad yr ymchwiliad yw cael atebion i achosion unigol, ond ry'n ni eisiau deall beth digwyddodd, pam ddigwyddodd e', ac yn bennaf oll i sicrhau bod newidiadau'n digwydd."
'Ein stori ni yn un o gannoedd'
Bu farw tad Ms Rees-Marsh yn ystod Hydref 2020.
Mae hi'n credu iddo ddal Covid-19 tra roedd yn ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni, lle roedd yn cael triniaeth am haint.
"Fe aeth e i'r ysbyty oherwydd bod ganddo haint ar goden y bustl (gall bladder).
"Fe symudodd wely chwe gwaith o fewn wyth diwrnod, ac fe gafodd ei anfon adref heb gael ail brawf Covid.
"Roedden nhw wedi cofnodi nifer fawr o achosion. Fe waethygodd e'n gyflym ar ôl mynd adre'.
"Fe fu'n rhaid iddo fynd yn ôl i'r ysbyty, cafodd brawf positif am Covid, ac fe fu farw dridiau'n ddiweddarach.
"Roedd yr holl beth yn hunllef o'r dechrau i'r diwedd, ac mae'n stori ni yn un o gannoedd o straeon erchyll."
Clywed tystiolaeth
Mae'r gwrandawiadau cychwynnol wedi dechrau yn Llundain ddydd Mawrth.
Roedd yna funud o dawelwch i gofio'r "golled a'r caledi bu pobl yn ei brofi", ac yna mae rhan fwya'r sesiwn gyntaf yn ymwneud â materion gweinyddol
Fe fydd y dystiolaeth gyntaf yn cael ei chlywed yn y gwanwyn.
Bydd y gwrandawiad rhagarweiniol ar gyfer Modiwl 1, a fydd yn archwilio gwytnwch a pharodrwydd y DU ar gyfer y pandemig.
Tra bydd Modiwl 2 yn ystyried y penderfyniadau gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a'r llywodraethau datganoledig eraill.
Fe fydd y dystiolaeth gyntaf ar gyfer y rhan honno o'r ymchwiliad yn dechrau cael ei chlywed yn ystod Haf 2023.
Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Hallett: "Byddaf yn cymryd tystiolaeth y flwyddyn nesaf i greu darlun llawn o'r heriau yr oedd Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yn eu hwynebu a sut y dewisodd pob un fynd i'r afael â'r rhain."
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am gynnal ymchwiliad penodol i Gymru.
Mae rhyw 500 o aelodau yn y grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, ac maen nhw wedi cwrdd â Mr Drakeford ar fwy nag un achlysur.
'Ymchwiliad y DU yw'r lle gorau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n benderfynol o sicrhau bod ein gweithredoedd a'n penderfyniadau - a rhai gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru - yn cael eu craffu'n llawn ac yn briodol.
"Yr ymchwiliad y Deyrnas Unedig gyfan sydd yn y lle gorau i oruchwylio natur cyd-gysylltiedig y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud ar draws y pedair gwlad."
Yn dilyn y cadarnhad bod y grŵp wedi cael dynodiad craidd, ychwanegodd llefarydd bod y llywodraeth yn croesawu'r penderfyniad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021