'Dim sgwrs am lwybr Cwpan y Byd os gollwn ni'
Mae tîm merched Cymru "wedi gweithio mor galed yn y blynyddoedd diwethaf", meddai Angharad James, i gyrraedd sefyllfa lle gallen nhw fod un gêm i ffwrdd o gyrraedd Cwpan y Byd.
Bydd Cymru'n herio'r Swistir nos Fawrth yn Zurich am le yn y twrnament yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf - gyda'r gêm ar gael i'w gwylio yn fyw ar BBC Cymru Fyw.
"Mae'r grŵp yma wedi bod gyda'i gilydd ers sbel nawr, a dyna pam ni'n chwarae, ni moyn bod yng Nghwpan y Byd," meddai James, a enillodd ei 100fed cap dros Gymru'n gynharach yn yr ymgyrch.
Bu'n rhaid i Gymru chwarae amser ychwanegol cyn trechu Bosnia o 1-0 yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, wrth i gôl wefreiddiol Jess Fishlock sicrhau'r fuddugoliaeth.
Fel y tîm cartref, Y Swistir yw'r ffefrynnau yn y ffeinal - mae ganddyn nhw hefyd brofiad o gyrraedd twrnamentau, gan chwarae yn y ddau Ewros diwethaf a Chwpan y Byd 2015.
Ond y tro diwethaf i Gymru eu chwarae oedd yng Nghwpan Cyprus yn 2018, pan lwyddon nhw i gael gêm gyfartal ddi-sgôr.
Os ydy Cymru'n ennill nos Fawrth mae'n debygol y bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae un rownd arall o gemau ail gyfle - yn Seland Newydd ym mis Chwefror - yn erbyn tîm o gyfandir arall er mwyn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd.
Yr unig ffordd allen nhw gyrraedd Cwpan y Byd heb orfod chwarae gêm arall fyddai i guro'r Swistir o ddwy gôl, a bod un ai Portiwgal neu'r Alban yn ennill ar giciau o'r smotyn yn eu ffeinalau nhw.
Colli yn Zurich, a bydd y freuddwyd ar ben i garfan Gemma Grainger am ymgyrch arall.
Owain Llyr fu'n holi Angharad James yn Zurich.