Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd: Cymru 1-0 Bosnia-Herzegovina
- Cyhoeddwyd
Jess Fishlock oedd yr arwres i Gymru wrth iddyn nhw orfod mynd i amser ychwanegol i drechu Bosnia-Herzegovina yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Fe wnaeth y crysau cochion greu cyfle ar ôl cyfle - gan gynnwys rhoi'r bêl yn y rhwyd bedair gwaith yn y 90 munud cyntaf - ar noson rwystredig yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond ar ddiwedd yr hanner cyntaf o amser ychwanegol, rhwydodd Fishlock gyda foli hyfryd i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Bydd Cymru nawr yn teithio i'r Swistir i'w herio nhw ar nos Fawrth 11 Hydref, yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2023.
Cyfle ar ôl cyfle
Fel ffefrynnau clir cyn yr ornest doedd hi ddim yn syndod gweld Cymru'n dechrau gryfaf, gyda Fishlock - oedd yn dychwelyd i'r tîm ar ôl methu'r ddwy gêm grŵp olaf - yn tanio cyfle cynnar yn syth at golwr Bosnia, Almina Hodzic.
Bu bron i'r ymwelwyr gipio gôl annisgwyl wedi dim ond naw munud, gydag ergyd Marija Aleksic o gic gornel yn gofyn am arbediad gwych gan Laura O'Sullivan gyda'i thraed.
Ond y crysau cochion oedd yn edrych fwyaf bygythiol yn y chwarter awr agoriadol, gyda Ceri Holland yn penio'n syth at y golwr, cyn i Kayleigh Green rwydo tra'i bod hi'n camsefyll.
Bu'n rhaid i Hodzic arbed yn wych unwaith eto, gan rwystro ergyd Rachel Rowe o bellter cyn ymateb i ergyd Holland a gwthio'r bêl i ffwrdd oddi ar y postyn.
Dechreuodd Bosnia ofyn mwy o gwestiynau o amddiffyn Cymru, ond roedd Holland yn parhau i fod yn fygythiad i'r tîm cartref gan daro ergyd arall yn syth at Hodzic.
Tarodd Rowe ergyd arall at y golwr, cyn i Angharad James godi foli dros y bar o groesiad Fishlock, wrth i'r hanner cyntaf orffen yn ddi-sgôr.
Gwiriad VAR
Cafwyd dechrau mwy hafal i'r ail hanner, a daeth Hayley Ladd yn agos at benio'r bêl yn ôl i'w rhwyd ei hun yn dilyn dryswch rhyngddi hi ac O'Sullivan.
Wedi 64 munud roedd y bêl yn rhwyd Bosnia am yr eildro - ond unwaith eto roedd Green yn camsefyll cyn ei hergyd.
Er gwaethaf sawl ymosodiad addawol i Gymru, doedd y croesiadau ddim yn llwyddo i ganfod crysau cochion yn y cwrt cosbi wrth i Bosnia - a Marija Milinkovic yn enwedig - amddiffyn yn gadarn.
Cafwyd rhagor o ddrama gyda'r llumanwr tua diwedd y 90 munud, wrth i ergydion yr eilydd Ffion Morgan ac yna Fishlock hefyd beidio â chael eu caniatáu oherwydd camsefyll.
Bu'n rhaid cael gwiriad VAR ar gyfer ergyd Morgan, oedd ddim yn camsefyll ei hun - rhai o'i chyd-chwaraewyr oedd yn euog o wneud wrth i'r croesiad ddod i mewn.
Fishlock yn rhwydo
Holland oedd y prif fygythiad unwaith eto yn hanner cyntaf y 30 munud o amser ychwanegol, gan daro ergyd a wyrodd am gic gornel cyn gweld peniad yn hedfan heibio i'r postyn.
Ac eiliadau cyn yr egwyl daeth y gôl o'r diwedd, gyda Fishlock - ar ei 135fed cap - yn dangos techneg hyfryd i daro foli o gic rydd yn syth i gornel ucha'r rhwyd.
Gyda thorf o 15,200 - y trydydd gwaith i Gymru dorri eu torf record yn ystod yr ymgyrch hon - yn bloeddio'u cefnogaeth, llwyddodd Cymru i ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Fe fyddan nhw nawr yn teithio i Zurich ar gyfer y rownd derfynol ymhen pum diwrnod, gan wybod bod lle yng Nghwpan y Byd 2023 yn Awstralia a Seland Newydd yn y fantol.
Os ydyn nhw'n trechu'r Swistir, mae'n debygol y bydd yn rhaid i Gymru dal chwarae un rownd arall o gemau ail gyfle, yn erbyn tîm o gyfandir arall - ond bydd hynny'n dibynnu ar ganlyniadau'r gemau ail gyfle eraill.
Ond fe fydden nhw'n sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd yn syth, os ydyn nhw'n curo'r Swistir o ddwy gôl - a bod unai'r Alban neu Portiwgal yn gorfod mynd i giciau o'r smotyn i ennill eu ffeinal nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022