'Chwaraewyr rygbi fel Clive Sullivan yn bwysig i blant du'
Mae'n bwysig "gweld rhywun sy'n edrych fel ti" ar y cae, yn ôl un sy'n chwarae rygbi i dîm saith bob ochr Cymru.
Wrth drafod y cyn-chwaraewr o Gaerdydd, Clive Sullivan, dywedodd Lloyd Lewis fod chwaraewyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sy'n chwarae i Gymru yn fodelau rôl i chwaraewyr ifanc.
Cafodd Clive Sullivan yrfa ddisglair tra'n chwarae rygbi'r gynghrair yng ngogledd Lloegr yn bennaf i Hull a Hull Kingston Rovers, a hynny gan mai prin oedd ei gyfleoedd i chwarae yng Nghymru.
Yn 1972, ef oedd y dyn du cyntaf i fod yn gapten ar dîm Prydain mewn unrhyw gamp pan arweiniodd y tîm rygbi cynghrair.
Yr uchafbwynt yng Nghymru oedd gwisgo'r crys coch fel capten yn 1975.
Fel rhan o fis hanes pobl ddu, fe fydd rhaglen ddogfen arbennig yn cael ei darlledu nos Fercher i nodi ei gyfraniad.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, ychwanegodd Lloyd Lewis: "Does dim lot o bobl sy'n edrych fel ti pan ti'n ifanc, ac wrth gwrs, mae hwnna'n rili bwysig.
"Fi'n asgellwr a dwi'n cofio cap cyntaf Aled Brew i Gymru achos o'dd e'n asgellwr ac yn foi du ac o'n i'n meddwl 'waw, mae hwnna'n edrych fel rhywun mwy fel fi a rhywun chi ddim rili'n gweld yn aml i Gymru'.
"Ga'th Clive, yn bendant, yr un effaith fi'n siŵr ar raddfa hyd yn oed yn uwch."
Bydd rhaglen Clive Sullivan: Rugby League Legend ar BBC 1 Cymru am 22:40.