'Cywilydd rygbi Cymru': Gadael mamwlad i chwarae'r gêm
- Cyhoeddwyd
Yn 1895 fe rannodd rygbi yn ddwy gamp; rygbi'r undeb, y gêm sydd mor gyfarwydd i ni yma yng Nghymru, a rygbi'r gynghrair sydd â'i chadarnleoedd yng ngogledd Lloegr ac Awstralia.
Roedd rygbi'r gynghrair yn talu eu chwaraewyr am eu bod yn gorfod cymryd amser o'u gwaith er mwyn chwarae, ond fe gadwodd rygbi'r undeb ei statws fel gêm amatur tan 1995.
Dros y blynyddoedd mae cannoedd o chwaraewyr o Gymru wedi gadael am ogledd Lloegr i chwarae rygbi'r gynghrair, gyda Trevor Foster, Gus Risman a Jim Sullivan ymysg y gorau. Yn fwy diweddar aeth Cymry fel Jonathan Davies, Scott Quinnell a Scott Gibbs i ennill bywoliaeth i glybiau fel Widness (Davies), Wigan (Quinnell) a St Helens (Gibbs).
Ond fe aeth eraill i ogledd Lloegr, nid am yr arian, ond am eu bod yn teimlo bod well cyfleoedd i chwaraewyr du tu allan i Gymru.
Y chwaraewyr rygbi o'r Dociau
Roedd llawer o fechgyn ifanc du o ardal Butetown a Dociau Caerdydd wedi troi at rygbi'r gynghrair, fel Clive Sullivan, capten du cyntaf Prydain yn unrhyw gamp, a Roy Francis, hyfforddwr cyn ei amser sy'n cael ei ystyried fel 'Carwyn James rygbi'r gynghrair'. Ond efallai yr enwocaf i gyd oedd y gwibiwr o Butetown, Billy Boston.
"Mae Billy Boston yn enw anferthol o fewn rygbi'r gynghrair," meddai'r sylwebydd a chyn-chwaraewr rygbi'r undeb a gynghrair, Jonathan Davies.
"Dydi pobl ddim yn sylweddoli pa mor fawr yw pobl fel Billy Boston lan yng ngogledd Lloegr. Ond nid ond fe, chi'n siarad am Roy Francis a Clive Sullivan a fe fel y tri enwocaf efallai, ond hefyd bois fel Colin Dixon. Roedden nhw wir yn chwaraewyr gwych ac mae gan bawb lot o feddwl o'nyn nhw."
Meddai'r hanesydd chwaraeon, Tony Collins: "Roedd Billy yn chwaraewr deallus iawn, yn asgellwr ond chwaraeodd ym mhob safle yn y cefnwyr; yn gorfforol ond yn ysgafn ar ei draed. Os fysech yn gorfod dylunio chwaraewr rygbi drwy gyfrifiadur maen siŵr mai rhywun fel Billy Boston fyddai'r canlyniad."
Yng Nghymru mae enwau mawr y 60au a 70au dal yn fyw iawn yn y cof, ac mae Jonathan Davies yn dweud bod Billy Boston yn enw cyfatebol o fewn byd rygbi'r gynghrair.
"Os ni'n meddwl am bobl lawr fan hyn fel Gareth Edwards, Gerald Davies, Barry John a JPR Williams, mae bobl lan yn Wigan yn meddwl am Billy Boston yn yr un modd.
"Does angen dim ond edrych ar record bobl fel Billy (478 cais mewn 487 gêm dros Wigan) i sylweddoli pam mae e'n cael ei addoli lan 'na."
'Traddodiad o hiliaeth'
Yn ôl Tony Collins, doedd yr awdurdodau yng Nghymru ddim am weld dyn du yn cynrychioli'r tîm cenedlaethol: "Roedd yna reol answyddogol ar y pryd na fyddai chwaraewr du yn cael chwarae rygbi dros Gymru.
"Os edrychwch chi ar y chwaraewyr o Gymru ddaeth i ogledd Lloegr i chwarae'r gynghrair, roedd nifer sylweddol ohonynt yn ddu - roedd 'na chwaraewyr du yn cynrychioli Cymru yn y gamp yn 1935."
Roedd rhaid i rygbi'r undeb aros dros hanner canrif am chwaraewr du yn nhîm cenedlaethol Cymru, sef Glenn Webbe ym mis Mehefin 1986.
"Erbyn yr 1950au daeth llawer mwy o Gymry i ogledd Lloegr - Billy Boston, Johnny Freeman, Roy Francis... roedden nhw'n gwybod nad oeddent yn gallu gwireddu eu potensial a chwarae ar y lefel uchaf drwy aros yn ne Cyrmu, oherwydd y colour bar answyddogol yn erbyn bobl ddu.
"Roedd yna draddodiad o hiliaeth o fewn chwaraeon Prydain, ond rygbi'r gynghrair yw un o'r ychydig lefydd lle roedd chwaraewyr du yn gallu cyrraedd y top. Wrth gwrs fe oedd hiliaeth yng ngogledd Lloegr fel unrhywle arall, ond o fewn y gamp roedd chwaraewyr du yn cael chwarae teg."
'Cywilydd rygbi Cymru'
Mae'r ffordd cafodd y Cymry du ifanc eu trin yn gwmwl dros hanes y gêm yng Nghymru yn ôl Tony Collins: "Mae'n gyfnod cywilyddus yn hanes rygbi Cymru, achos fe arweiniodd at bobl yn gorfod gadael eu mamwlad a theithio cannoedd o filltiroedd er mwyn gallu chwarae rygbi ar y safon uchaf posib a chael cyfle teg."
Fel dywed Jonathan Davies: "Ca'th Billy ei eni a magu yng Nghaerdydd ac y rheswm aeth e bant oedd am fod e'n teimlo bod e methu whare i Gaerdydd a Chymru."
Cydnabyddiaeth yn Lloegr
Yn 2016 dadorchuddwyd cerflun o Billy Boston tu allan i stadiwm Wigan Warriors, Stadiwm DW, ac mae eisteddle yn y stadiwm wedi ei enwi ar ei ôl.
Tu allan i Wembley mae cerflun o bump o'r chwaraewyr gorau yn hanes rygbi'r gynghrair, gyda dau Gymro yn eu plith, Gus Risman a Billy Boston.
"Mae ganddo fe gerflun yn Wigan ac yn Wembley ac dwi'n meddwl bod o'n grêt bo' nhw'n ystyried cael un yng Nghaerdydd," meddai Jonathan Davies.
Cerflun i Billy yng Nghaerdydd?
Mae cyngor Caerdydd wedi datgan y bydd cerflun o dri chwaraewr rygbi'r gynghrair yn cael ei godi ym Mae Caerdydd. Bydd y tri chwaraewr yn cael eu dewis o restr o 13 o enwau (y nifer sydd mewn tîm rygbi'r gynghrair), oll wedi eu magu o fewn tair milltir i Fae Caerdydd.
Yr 13 sydd ar y rhestr yw Billy Boston, Gerald Cordle, Dennis Brown, Joe Corsi, Colin Dixon, Roy Francis, Johnny Freeman, Gus Risman, Clive Sullivan, Jim Sullivan, Frank Whitcombe, William 'Wax' Williams a Dave Willicombe.
"Diolch byth mae pethe wedi newid erbyn hyn [o ran hiliaeth o fewn rygbi], ond dyle fe byth wedi bod fel 'na yn y lle cyntaf. Dyle pawb gael yr un cyfleoedd, ac falle bydd cael cerflun lawr y Docs yn golygu bod rhywun yn cerdded heibio a meddwl 'os odd e'n gallu 'neud e, alla i wneud e'," meddai Jonathan Davies.
Ond mae'n credu y dylir newid yr arfer o ddim ond codi cerflun ar ôl i rywun farw: "Mae Billy wedi bod yn sâl yn y blynyddoedd diweddar, ond bydde'n golygu lot iddo fe i wybod bod ei dref enedigol yn rhoi teyrnged iddo fe nawr."
Mae Tony Collins yn falch o'r ffaith bod cynlluniau i godi cerflun er teyrnged i chwaraewyr du Caerdydd aeth i ogledd Lloegr. Ond mae'n credu dylai'r cerflun fod yn deyrnged i'r gymuned ehangach:
"Mae'n wych bod rhywfaint o gydnabyddiaeth am fod, ond mae 'di cymryd lot rhy hir - dyma'r teyrnged y dylai'r chwaraewyr yma ei gael. Mae'n drueni bod lot o'r chwaraewyr cynnar aeth yno yn y 30au, 40au a 50au ddim o gwmpas i weld cerflun newydd.
"Mae hefyd yn deyrnged i gymuned Tiger Bay a'r llefydd cyfagos a phobl Caerdydd. Er gwaetha'r rhagfarn a hiliaeth fe wnaethon nhw dal feithrin pobl hynod o dalentog, nid yn unig o fewn rygbi, ond pobl fel Colin Jackson a Shirley Bassey.
"Bydd unrhyw gerflun newydd yn deyrnged i'r cymuned gyfan, nid dim ond y chwaraewyr eu hunain."
Hefyd o ddiddordeb