Biliau Ynni: 'Ddim mo'yn meddwl am e - rwy'n ofnus'

"I weud y gwir fi'n trial peidio meddwl am byti fe... fi'n ofnus i feddwl am byti fe."

Wedi ei barlysu ers iddo dorri ei wddf mewn damwain ddeifio 16 mlynedd yn ôl, mae Dave Davies yn rhentu byngalo a gafodd ei godi'n arbennig iddo.

Ond dywedodd y dyn 39 oed o Gribyn, ger Llanbedr Pont Steffan, fod penderfyniad Llywodraeth y DU i wneud tro pedol ar gefnogaeth gyda biliau ynni wedi creu mwy o ansicrwydd iddo ef ac eraill mewn sefyllfa debyg.

Yn ddibynnol ar ofal 24 awr y dydd, o ganlyniad i'r ddamwain, mae Mr Davies yn dioddef o broblemau niwrolegol sy'n golygu nad yw'n gallu rheoli ei dymheredd.

Ond eisoes mae'n wynebu costau ychwanegol yn sgil yr argyfwng costau byw ac mae'n pryderu am y dyfodol wrth i sicrwydd cymorth gyda thalu biliau ynni ddod i ben yn Ebrill 2023.

Mwy am y stori yma - Tro pedol biliau ynni: 'Colli ffydd yn y system'