Tro pedol biliau ynni: 'Colli ffydd yn y system'
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad i ddod â chap ar brisiau ynni i ben yn gynharach na'r disgwyl yn achosi "mwy o straen meddwl" i'r rhai sydd wedi eu "anghofio gan y system".
Dyna farn dyn o Geredigion gafodd ei barlysu 16 mlynedd yn ôl ac sy'n poeni am y dyfodol yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor ddydd Llun.
O ganlyniad bydd y Trysorlys yn adolygu'r gefnogaeth ar gyfer talu biliau ynni wedi mis Ebrill nesaf - yn wreiddiol roedd yna addewid y byddai cefnogaeth am ddwy flynedd.
Bwriad y cynllun gwreiddiol oedd dynodi cap ar faint all cyflenwyr godi fesul uned am nwy a thrydan, er mwyn helpu pobl ddygymod â biliau'r gaeaf.
Ond wrth newid cyfeiriad dywedodd y Canghellor y bydd y Trysorlys nawr yn ystyried beth ddylai ddigwydd wedi mis Ebrill, gan gyfeirio at "ffordd newydd" o dargedu'r bobl fwyaf anghenus.
Gwres sefydlog
Wedi ei barlysu ers iddo dorri ei wddf mewn damwain ddeifio 16 mlynedd yn ôl, mae Dave Davies yn rhentu byngalo a gafodd ei godi'n arbennig iddo.
Ond dywedodd y dyn 39 oed o Gribyn, ger Llanbedr Pont Steffan, fod penderfyniad Llywodraeth y DU i wneud tro pedol wedi creu mwy o ansicrwydd iddo ef ac eraill mewn sefyllfa debyg.
Yn ddibynnol ar ofal 24 awr y dydd, o ganlyniad i'r ddamwain mae Mr Davies yn dioddef o broblemau niwrolegol sy'n golygu nad yw'n gallu rheoli ei dymheredd.
Gyda'i groen hefyd yn hynod o sensitif, mae gwisgo deunyddiau trwm fel siwmperi yn achosi problemau iddo.
"Oherwydd fy anabledd mae angen i'r tŷ aros yn 24 gradd," meddai Mr Davies, sy'n dad i ddau o blant.
"Os yw'n dechrau mynd yn oerach fi'n dechrau cael symptomau eitha' drwg a fi'n dechrau chwysu os fi'n mynd yn rhy oer.
"Yna fi'n cael goosebumps sy'n gwneud y chwysu'n waeth, a phan fi'n dechrau chwysu fi'n mynd yn oerach ac yn oerach yn gynt.
"Ddydd neu nos mae'n rhaid iddi fod yn 24 gradd, dyna'r broblem fawr sydd gen i."
'Straen meddwl'
Ond gyda'r tŷ yn cael ei gynhesu gan bwmp gwres ffynhonnell aer, dywedodd Mr Davies fod y byngalo yn costio "ffortiwn" i'w gynhesu, ac ei fod eisoes wedi benthyg arian yn y gorffennol gan ei deulu, a defnyddio cardiau credyd, i dalu biliau..
"Beth mae'n mynd i gostio o'r bil nesaf ymlaen... 'na be' rwy'n ofni," meddai.
"Roedd yn dda bod rhywbeth yn ei le i'n helpu ni ac roedd hynny i fod yn ei le am ddwy flynedd. Roedd yn golygu llai o straen meddwl am le rydw i'n cael gweddill yr arian.
"Ond nawr bod hynny'n mynd i gael ei dorri ymhen chwe mis, dydw i ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd."
O ganlyniad dywedodd Mr Davies nad oedd ganddo "ffydd yn y system", wrth iddo hefyd boeni am y defnydd uwch o drydan yn ystod misoedd y gaeaf.
"Flwyddyn yn ôl pan oeddwn gyda chwmni ynni llai roeddwn i'n talu 11c yr uned, nawr mae'n 34c felly mae wedi treblu mewn blwyddyn," meddai.
"Dyw e ddim yn gynaliadwy i bobl ar y gwaelod. Mae gan bobl sydd ag anableddau gostau cudd nad yw pobl ar y top yn meddwl amdanyn nhw.
"Mae gen i ofalwyr sy'n byw i fewn, mae'n rhaid i mi dalu am eu bwyd nhw â phethau eraill fel menig gwthio [ar gyfer cadair olwyn], mae unrhyw beth yn ymwneud ag anableddau yn costio lot.
"Alla i ddim mynd allan a chael swydd i ennill mwy o arian, bydden i wrth fy modd yn mynd allan a chael swydd i ennill mwy pe bawn i'n gallu, ond rwy'n styc gyda'r hyn mae'r system yn ei roi i mi."
'Angen bod yn realistig'
Ddydd Llun dywedodd y Canghellor newydd, Jeremy Hunt, byddai'r gefnogaeth - gyda'r bwriad o gadw biliau ynni cyfartalog lawr i £2,500 - yn cael ei adolygu fel ei fod yn costio "lawer llai" i'r pwrs cyhoeddus.
Ychwanegodd y byddai'r mwyaf bregus yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag prisiau cyfanwerthu cynyddol.
Ond dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru fod y tro pedol yn achosi pryder i gartrefi a busnesau.
"Rwy'n meddwl ei fod yn wirioneddol bryderus bod Llywodraeth y DU wedi tynnu'r sicrwydd hwnnw o ar ôl mis Ebrill o ran cefnogaeth gydag egni," meddai Rebecca Evans AS.
"Er y bydd Llywodraeth Cymru yn amlwg yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw drwy dargedu ein cefnogaeth at y rhai sydd ei angen fwyaf, rwy'n meddwl bod angen i ni fod yn realistig ynglŷn â pha mor bell y gall cyllideb Cymru ymestyn.
"Allwn ni ddim addo pethau na allwn ni eu fforddio, ond yr hyn y gallwn ni addo ei wneud yw blaenoriaethu'r bobl fwyaf bregus wrth i ni fynd ati i ddatblygu ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf."
Cymorth ychwanegol
Roedd cydnabyddiaeth gan Luke Young o'r elusen Gyngor ar Bopeth, bod cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth y DU am greu mwy o boen meddwl i bobl.
"Rydyn ni'n gwybod nad yw'r lefel bresennol o gefnogaeth yn mynd i fod yn ddigon ac rydyn ni'n gwybod hynny oherwydd bod llawer o bobl eisoes yn cael trafferth," meddai.
"Rydym wedi bod yn dadlau dros yr ychydig wythnosau diwethaf am gymorth ychwanegol wedi'i dargedu ar ben y Gwarant Pris Ynni.
"Rwy'n meddwl mai'r hyn y mae'r cyhoeddiad heddiw yn ei wneud yw ychwanegu amheuaeth bellach ynghylch pa gymorth fydd ar gael i bobl o fis Ebrill ymlaen."
Gan awgrymu y dylai Llywodraeth y DU ystyried cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant fel mesur tymor byr, ychwanegodd: "Mae'r cyhoeddiad yn debygol o greu mwy o bryder i bobl... mae 'na gost seicolegol yn ogystal ag ariannol.
"Mae pobl oedd yn cael sicrwydd ychydig ddyddiau yn ôl y byddai eu biliau ynni'n cael eu capio am ddwy flynedd, bellach yn cael gwybod ei bod hi'n chwe mis, a dydych chi ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hynny.
"I lawer o'n cleientiaid, mae gwahaniaeth bach mewn incwm yn golygu llawer iawn yn eu cyllidebau misol.
"Rydych chi'n cael yr effaith ehangach hon lle bydd pobl nawr yn meddwl, unwaith eto, 'a allai dalu fy miliau?' ac 'a allai gael dau ben llinyn ynghyd'?"
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys mai bwriad Llywodraeth y DU wedi'r gaeaf hwn oedd ffocysu'n well ar roi cefnogaeth i deuluoedd bregus a'r rhai sy'n llai abl i dalu gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu hysgogi i wella effeithlonrwydd ynni.
"Bydd adolygiad, a fydd yn cael ei arwain gan y Trysorlys, yn ystyried sut mae gweithredu amcanion o'r fath," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022