S4C 'angen adlewyrchu sut mae pobl yn siarad Cymraeg'
Mae prif weithredwr S4C, Sian Doyle yn dweud bod angen i'r sianel "adlewyrchu sut mae pobl yn siarad Cymraeg" erbyn heddiw wrth feddwl am eu rhaglenni.
Wrth nodi 40 mlynedd ers i S4C ddarlledu am y tro cyntaf, ychwanegodd ei bod hi dal yn gweld rôl "hanfodol" i'r sianel pan mae'n dod at warchod a hybu'r Gymraeg.
Darllen mwy: Y fraint o fod ar y sgrin wedi'r 'frwydr' i lansio S4C