Y fraint o fod ar y sgrin wedi'r 'frwydr' i lansio S4C

  • Cyhoeddwyd
Beti a Sian
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Beti George (chwith) a Sian Thomas (dde) yn rhai o'r wynebau wnaeth ymddangos ar S4C ar y noson gyntaf

"Dw i'n cofio'r bore 'na - Tachwedd y cyntaf - gorwedd yn fy ngwely a gwrando ar Hywel Gwynfryn a 'Helo Bobol' a'r cyfan yn sôn am y sianel a meddwl 'O bois bach, dw i jyst yn gobeithio mod i'n mynd i wneud popeth yn iawn!'"

Roedd Sian Thomas a Beti George ar S4C y noson gyntaf y cafodd y sianel ei lansio - 1 Tachwedd 1982. Ers hynny, mae'r ddwy wedi ymddangos ar y sianel yn rheolaidd dros y 40 mlynedd diwethaf.

Er y "fraint", roedd y pwysau o ddarlledu ar y noson gyntaf yn enfawr, yn enwedig o gofio'r "frwydr" i lansio'r sianel, yn ôl Sian Thomas.

Dywedodd Beti George mai dyna oedd yr "oes aur" a'i bod hi'n gyfle i arddangos doniau cyflwynwyr, actorion a darlledwyr Cymru.

Disgrifiad,

Sian Doyle: "Angen i S4C adlewyrchu sut mae pobl yn siarad Cymraeg"

Fe ddechreuodd Sian fel un o'r cyhoeddwyr cyntaf ar y sianel yn llywio'r gwylwyr o un rhaglen i'r llall.

Roedd hi yng nghwmni'r hynod brofiadol Robin Jones oedd wedi treulio blynyddoedd gyda BBC Cymru, a wyneb newydd arall, Rowena Griffin.

'Brwydr'

Yng nghanol y cyffro, roedd cyfrifoldeb a "phwysau aruthrol" yn ôl Sian, yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu i sefydlu'r sianel.

"Mi oedd y frwydr ar gyfer sianel yn y Gymraeg wedi bod yn rhan o mywyd i fel ein bywydau i gyd ers blynyddoedd cyn S4C," meddai Sian.

Disgrifiad o’r llun,

Sian Thomas oedd un o gyflwynwyr cyntaf y sianel ac mae hi'n dal i'w gweld yn cyflwyno ar y sianel 40 mlynedd yn ddiweddarach

"Y frwydr wrth gwrs wedi bod yn llwyddiannus, ac S4C yn mynd i ddigwydd, felly mi oedd y pwysau arnon ni'n arwain at y noson agoriadol 'na yn aruthrol. Mi oedden ni'n griw bychan, yn griw ifanc.

"Mi roedd 'na bwysau cynyddol ond hefyd, wrth gwrs, yn gyffrous tu hwnt," ychwanegodd.

"Mi oedden ni'n gwneud rhywbeth newydd oedd yn mynd i fod mor bwysig, ac roedd rhywun yn ymwybodol hefyd bod e'n hanesyddol felly oedd e'n ddiwrnod gwych."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Thomas yn dal i gyflwyno o stiwdio 'Heno' a 'Prynhawn Da' yn Llanelli

Ac wrth gwrs, i Beti roedd bod ar y teledu'n golygu gorfod dod o hyd i ddillad newydd.

"Yr unig beth dwi'n cofio ydy bod rhaid i fi brynu rhyw wisg arbennig ar gyfer y noson yma!" dywedodd.

"Fy ymddangosiad cynta' i ar S4C , a dw i'n cofio prynu rhyw flowsen sidan, ddrud ofnadwy... ac wrth gwrs o'dd hi'n drychinebus dw i'n cofio'n iawn.

"Felly mae 'na wers fan 'na, dyw popeth drud ddim yn gweithio mewn gwirionedd."

'Gweld y byd trwy lygaid Cymry'

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Beti George yn ddarlledwr profiadol erbyn lansio S4C

Er bod Sian yn wyneb newydd, roedd Beti wedi bod yn llais ac yn wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu ers rhai blynyddoedd cyn dechrau S4C.

Roedd hi'n un o gyflwynwyr rhaglen gylchgrawn nosweithiol BBC Cymru, 'Heddiw', ac fe gafodd hi a'i chyd-gyflwynydd Gwyn Llewelyn eu dewis i gyflwyno gwasanaeth newyddion y sianel newydd, 'Newyddion Saith'.

Am y tro cyntaf, roedd y rhaglen newydd yn cynnwys newyddion byd-eang, yn ogystal â straeon o Gymru.

"O'n i'n croesawu hynny," meddai Beti, "achos y'ch chi'n gweld y gohebwyr yn mynd ar draws y byd o Loegr, ac yn meddwl 'dyn ni ddim yn edrych ar y byd fel 'na a dyma gyfle o'r diwedd i weld y byd trwy lygaid y Cymry.

"Wrth gwrs nid pawb oedd yn croesawu hynny - o'dd rhai yn meddwl y dylen ni ganolbwyntio ar newyddion Cymru - wrth gwrs roedd yn rhaid gwneud hynny.

"Ond o'n i'n meddwl 'ie dyma gyfle nawr i edrych ar y byd trwy'n llygaid ni' achos y'n ni yn ei weld e'n wahanol dw i'n meddwl i'r ffordd mae'r Saeson yn gweld y byd, achos mae'n hanes ni mor wahanol ond yw e."

Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Beti George y byd darlledu'n newid dros y blynyddoedd wrth gyflwyno'r newyddion ar y sianel

Yn ogystal â bod yn un o wynebau'r gwasanaeth newyddion, mae Beti wedi cyflwyno nifer o gyfresi eraill, yn enwedig ym maes cerddoriaeth.

"O'dd Neuadd Dewi Sant wedi cael ei agor yn yr un flwyddyn ac o'dd hynna'n gyfle ond oedd e, achos o'dd 'da ni gerddorfa arbennig yn y BBC, ac felly mi o'n i'n gwneud rhaglenni.

"O'dd 'na gyngerdd unwaith y mis ar S4C, ac o'n i'n cael y fraint o gyflwyno, ac o'n i'n cwrdd â rhai o gerddorion mwya'r byd o safbwynt arweinyddion.

"O safbwynt y cantorion, Cymry oedden nhw gan fwya' ta beth!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Garlick, Angharad Mair a Sian Thomas oedd cyflwynwyr cyntaf y rhaglen Heno a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar 17 Medi, 1990

Mae'r ddwy wedi gweld newidiadau sylweddol ym myd teledu dros y 40 mlynedd diwethaf.

"Mi gafodd mam a dad eu teledu lliw cynta', er mwyn gweld fi!" meddai Sian.

"Dyna shwd oedd hi ar y pryd, o'dd lot o bobl yn dal i gael teledu du a gwyn.

"Hefyd, bryd hynny, o'dd rhaid i rywun godi o'r gadair i newid y sianel ar y teledu. Erbyn hyn, wrth gwrs, ma' cant a mil o sianeli yng nghledr eich llaw."

"Mae'r diwydiant wedi newid gymaint ers y dyddiau cynnar hynny, ac mi roedd y dyddiau cynnar hynny yn arbrofol ac yn newydd ac yn gyffrous iawn, ond mae'r diwydiant wedi symud ymlaen gymaint mewn deugain mlynedd."

'Dim cyfrifiadur, ffôn symudol...'

Mae Beti hefyd yn gweld bod rhaglenni newyddion wedi newid yn llwyr ers y rhifyn cyntaf o Newyddion Saith ym 1982.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Beti'n cyflwyno'r newyddion gyda Gwyn Llewelyn

"Do'dd dim cyfrifiaduron 'da ni, o'dd 'na ddim ffonau symudol - o'dd yn beth da!

"Wedyn o'r stiwidio... alla i ddweud o'dd e'n amaturaidd o'i gymharu â be sy'n digwydd heddiw," ychwanegodd.

"O'dd 'na bethau'n mynd o'i le yn aml iawn iawn.

"Ond wedyn ar yr ochr arall, o'dd 'na ohebwyr 'da ni yn gweithio ym mhob cwr o Gymru, ac oedd rhieni yn ein bwydo ni â hanesion a storïau - ac o'dd hynny'n beth da iawn, o'dd 'na fwrlwm rhyw ffordd neu'i gilydd.

"Erbyn hyn mae dyn yn dychmygu mai yn y swyddfa mae'r gweithgarwch a nid allan ar y priffyrdd a'r caeau."

'Braint'

Wrth barhau i fod yn wyneb cyfarwydd ar y sianel fel cyflwynydd Prynhawn Da, dywedodd Sian ei bod yn "teimlo'n freintiedig iawn 'mod i'n dal i weithio i S4C."

"Dw i wedi mwynhau bob eiliad - o'r diwrnod cynta' 'na reit lan i heddi' - a theimlo'n freintiedig iawn 'mod i wedi cael y cyfle i fod yn rhan o rywbeth mor bwysig yn hanes y genedl."

Mae Beti yn edrych yn ôl ar ddyddiau cynnar S4C gyda balchder mawr hefyd.

"O'n i'n gwerthfawrogi bod 'da ni sianel a bod 'da ni'n cyfle i ddangos y doniau oedd 'na ymhlith y Cymry Cymraeg, achos doedd hynny ddim wedi cael cymaint â hynny o sylw cyn S4C - yr holl actorion, cerddorion, cyflwynwyr, cyflwynwyr newyddion...

"Mi fuaswn i'n dweud hynny, ond mi oedd hi'n oes aur."

Pynciau cysylltiedig