Llanberis: Swyddi newydd yn 'hwb' i'r economi

Bydd cwmni meddygol Siemens yn creu bron i 100 o swyddi newydd "o ansawdd uchel" ar ei safle yn Llanberis.

Bydd y safle'n dod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu technoleg dadansoddi gwaed Immulite y cwmni Almaenig.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd y buddsoddiad yn diogelu 400 o swyddi ac yn creu 98 ychwanegol gyda chyflog cyfartalog newydd o 17% yn uwch na chyfartaledd awdurdodau lleol.

Mae'r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu'n fawr gan drigolion Llanberis, sy'n gobeithio y gall greu economi sy'n ffynu trwy'r flwyddyn i'r pentref.