Diogelu 400 o swyddi a chreu bron i 100 arall yn Llanberis
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni meddygol Siemens yn creu bron i 100 o swyddi newydd "o ansawdd uchel" ar ei safle yn Llanberis.
Bydd y safle'n dod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu technoleg dadansoddi gwaed Immulite y cwmni Almaenig.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd y buddsoddiad yn diogelu 400 o swyddi ac yn creu 98 ychwanegol gyda chyflog cyfartalog newydd o 17% yn uwch na chyfartaledd awdurdodau lleol.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r cwmni ddathlu 30 mlynedd yn gweithio yn y safle 36-erw yn Llanberis.
'Pleidlais enfawr o hyder'
Mae'r buddsoddiad - sy'n werth miliynau o bunnoedd - yn gobeithio uwchraddio datrysiadau ar gyfer diagnosis cynnar, sicrhau manylder diagnostig gwell a gwella gofal i gleifion.
Dywed y llywodraeth fod mwyafrif y gweithwyr presennol yn byw o fewn 10 milltir i safle Llanberis ac y byddai'r buddsoddiad yn sicrhau fod y safle yn weithredol tan o leiaf 2030.
Bydd y cyfleuster newydd yma hefyd yn gweld partneriaethau pellach gyda rhai o brifysgolion gorau Cymru.
Dywedodd Yr Athro Fraser Logue, pennaeth safle Siemens Llanberis: "Mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos pa mor hanfodol yw'r gwaith mae ein gweithlu presennol o dros 400 o gydweithwyr yn ei wneud.
"Mae labordai a chlinigau mewn dros 50 gwlad o amgylch y byd yn dibynnu ar yr adweithredyddion IMMULITE rydyn ni'n eu cynhyrchu yn Llanberis, gan gynnwys dros 100 o gyflyrau iechyd a 570 o brofion alergedd."
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, fod y buddsoddiad yn un "sylweddol".
"Mae Siemens yn gyflogwr strategol y gogledd i gyd ac mae'r buddsoddiad hwn yn bleidlais enfawr o hyder yn economi Cymru," meddai.
Croeso mawr ymhlith pentrefwyr
"Mae o'n beth da i'r ardal bod yna waith fel hyn" sy'n golygu bod "arian yn troi yn yr ardal", meddai Emlyn Baylis, aelod o gyngor cymuned y pentref a chadeirydd Grŵp Datblygu Llanberis.
Mae'n gobeithio, ac yn ffyddiog, y bydd y swyddi'n "cael eu llenwi'n reit handi".
"Ma' gennon ni'r twristiaeth yma ond tymhorol ydy hwnnw. Dwi'n meddwl fasa pobl yr ardal yn hapus i gael gwaith llawn amser ac ella am byth."
"Efo economi Llanberis fel mae o... mae really angen y boost yma," meddai'r perchennog salon harddwch Sioned Cumberton.
Ei gobaith yw y bydd rhagor o swyddi'n golygu bod mwy o bobl yn dod i ganol y pentref, "falle i 'nôl cinio" a thrwy hynny'n "ella'n dod i 'nabod Llanberis yn well".
Fe allai hynny yn ei dro, meddai, olygu bod y pentref yn fwy byrlymus y tu hwnt i'r tymor twristiaeth.
"Ar y funud, ma' lot o lefydd... 'di cau lawr neu cau am y tymor - does dim lot o draffig," meddai.
"Ma' Llanbêr efo potensial i fod ella 'chydig bach fatha Betws-y-coed [sydd] bob tro'n brysur."
Mae'r triniwr gwallt Wayne Jones yn croesawu'r sicrwydd a ddaw yn sgil rhagor o gyfleoedd gwaith ychwanegol yn lleol, yn arbennig i bobl ifanc.
"Ma' Siemens yn gyflogwr da - maen nhw'n un o gyflogwyr mwya' Llanbêr so dwi'n meddwl bod o yn syniad da bod y swyddi ychwanegol yn dod i bobl leol."
Dywedodd Aelod Senedd Cymru Arfon, Sian Gwenllian ei fod yn "newyddion gwych i'r ardal gyfan, ac i'w groesawu'n fawr yng nghanol yr holl ddiflastod economaidd presennol".
Ychwanegodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam sylweddol ymlaen i Siemens ac yn nodi buddsoddiad sylweddol arall gan y cwmni yn yr economi leol, gan ddod â thua 100 o swyddi medrus i'r ardal - buddsoddi a chreu cyflogaeth ar adeg pan mae ein heconomi yn mynnu cefnogaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022