Llifogydd: 'O'n i ddim yn gwybod beth i'w wneud'

Mae cymunedau yn ne Cymru yn delio â difrod llifogydd unwaith eto yn dilyn tywydd garw ddydd Mercher a dydd Iau

Un o'r ardaloedd a gafodd eu taro oedd y ffin rhwng tair sir - Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phowys - ger Ystradgynlais ac Ystalyfera.

Gerllaw yng Nghwm-twrch roedd rhan o dŷ Sheila Powell dan ddŵr nos Fercher. Dyma oedd yr eildro mewn tair blynedd i hynny ddigwydd.

Dywedodd nad yw'r difrod mor ddrwg eleni, ond ei bod yn byw gyda'r ofn y gallai ddigwydd unwaith eto.