Perchennog siop yn 'torri fy nghalon' wedi llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Difrod Vintage 7
Disgrifiad o’r llun,

Doedd siop Vintage 7 heb allu ailagor yn llawn ers y tro diwethaf i lifogydd daro'r busnes yn Awst 2020

Mae perchennog siop sydd wedi cael ei tharo gan lifogydd ddwywaith mewn dwy flynedd yn dweud ei bod hi'n "torri fy nghalon" wrth i'r gwaith o lanhau'r difrod ddechrau.

Dywedodd Gaynor Lloyd fod ei siop antiques yng Nghastell-nedd "wedi'i ddifetha tu mewn a thu allan" ar ôl i law trwm daro rhannau o dde Cymru ddydd Mercher a dydd Iau.

Mae cynghorydd lleol wedi rhoi'r bai am y llifogydd yn ardal Melyn yn y dref ar y ffaith fod ceuffos sydd i fod i gario dŵr o dan yr A474 wedi dymchwel.

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod y geuffos wedi gorlenwi, a'u bod yn gweithio ar gynllun gwell i atal llifogydd yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae rhywun ar fai - dylai rhywun fod wedi gweld y rhybuddion tywydd," meddai Gaynor Lloyd

Dywedodd Ms Lloyd fod ei siop - Vintage 7 - heb allu ailagor yn llawn ers y tro diwethaf i lifogydd daro'r busnes ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.

"Mae'n ofnadwy - union yr un geuffos wnaeth achosi'r llifogydd i'r busnes yn Awst 2020," meddai.

"Oherwydd gwaith adnewyddu, dydw i ddim wedi ailagor yn llawn ers hynny."

Ychwanegodd nad oes ganddi yswiriant "oherwydd llifogydd yn y gorffennol".

"Mae rhywun ar fai - dylai rhywun fod wedi gweld y rhybuddion tywydd," meddai Ms Lloyd.

"Dydw i methu credu'r peth - rwy'n torri fy nghalon."

Ffynhonnell y llun, Gaynor Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Siop Vintage 7 cyn y difrod...

Disgrifiad o’r llun,

... ac ar ôl

Dywedodd Heddlu De Cymru fod yr A474 yng Nghastell-nedd "dan ddŵr yn llwyr" nos Iau o Castle Bingo i'r garej Esso.

Yn ôl y cynghorydd lleol Dan Thomas, methiant ceuffos oedd achos y llifogydd, a dywedodd nad oes digon o "flaenoriaeth" wedi'i roi i gynnal a chadw'r ffyrdd.

"Yn ôl adroddiadau roedd 'na lawer o falurion wedi cael eu llusgo lawr o'r cymoedd, gan rwystro'r geuffos," meddai'r Cynghorydd Plaid Cymru.

"Gyda phwysau'r dŵr o'r glaw, fe wnaeth e ddymchwel yn y canol.

"Mae'n rhaid i ni gydweithio fel cyngor i ganfod pam fod yr ardal yma ym Melyn yn dal i gael llifogydd."

Ffynhonnell y llun, Gareth Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dŵr i'w weld yn llifo dros wal yn St Catherine's Close yn ardal Melyn, Castell-nedd

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod y geuffos wedi "gorlenwi" am fod malurion yn cael eu tynnu i mewn iddo mor sydyn fel nad oedd modd ei glirio mewn amser.

Cafodd cynllun gwerth £100,000 ei gwblhau ar y geuffos y llynedd, meddai'r cyngor.

"Mae wedi dod i'r amlwg fod angen cynllun mwy sylweddol ar gyfer yr ardal gyfan i atal llifogydd," meddai llefarydd, gan ychwanegu eu bod wedi dechrau ar gais am arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud hynny.

Disgrifiad,

Cafodd tŷ Sheila Powell ei daro gan lifogydd nos Fercher - yr eildro mewn tair blynedd i hynny ddigwydd

Nid dyma'r unig ardal i gael ei tharo gan lifogydd dros y dyddiau diwethaf, wedi i dafarn yn Ystradgynlais orfod cau ar ôl i ddŵr ddechrau llifo mewn i'r adeilad.

Gerllaw yng Nghwm-twrch cafodd tŷ Sheila Powell hefyd ei daro gan lifogydd nos Fercher. Dyma oedd yr eildro mewn tair blynedd i hynny ddigwydd.

Dywedodd nad yw'r difrod mor ddrwg eleni, ond ei bod yn byw gyda'r ofn y gallai ddigwydd unwaith eto.

Mae mwy o law a gwyntoedd cryfion yn y rhagolygon ar gyfer y penwythnos hefyd, er nad oes rhybuddion swyddogol mewn grym gan y Swyddfa Dywydd hyd yma.

Mae Cyngor Abertawe wedi canslo ei ddigwyddiad tân gwyllt blynyddol nos Sadwrn oherwydd y rhagolygon hynny.

Pynciau cysylltiedig