'Ofni cael mwy o blant' ers genedigaeth hunllefus

Tair blynedd ers i adolygiad ddweud y gallai marwolaethau babanod fod wedi'u hosgoi, mae gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg wedi eu tynnu o fesurau arbennig.

Dywedodd y gweinidog iechyd ddydd Llun fod cynnydd wedi ei wneud yn holl wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Cafodd merch Liz McClean brofiad hunllefus yn rhoi genedigaeth yn yr ardal honno, wrth iddi hi a'i phlentyn ddatblygu sepsis.

"Am gyfnod o awr neu ddau roedd hi'n edrych efallai fel y bydden ni'n colli'r ddau ohonyn nhw," meddai Liz.

Er ei bod yn hyderus fod gwelliannau wedi'u gwneud, dywedodd fod ei merch "wir eisiau cael rhagor o blant" ond fod ganddi ofn gwneud hynny o ganlyniad i'r profiad.

"Mae e mor drist bod cymaint wedi digwydd cyn iddyn nhw wneud unrhyw beth amdano fe," ychwanegodd Liz.

Dywedodd y bwrdd iechyd na wnawn nhw fyth anghofio camgymeriadau'r gorffennol, ond eu bod yn hyderus bod y gofal sy'n cael ei ddarparu'n "ddiogel, yn broffesiynol ac o'r safon uchaf".